Cynhadledd Bandung: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:46, 22 Chwefror 2020

Cyfarfod o ddiplomyddion o nifer o wledydd Asia ac Affrica oedd Cynhadledd Bandung a gynhaliwyd yn ninas Bandung ar ynys Gorllewin Jawa, Indonesia, o 18 Ebrill i 24 Ebrill 1955. Trefnwyd y gynhadledd gan lywodraethau Indonesia, Byrma, Seilón, India, a Phacistan, a chynrychiolwyd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd gan ddirprwyon o 29 o wladwriaethau a thiriogaethau.[1]

Gedung Merdeka, y neuadd gyfarfod yn ystod y gynhadledd.
Rhai o'r gwladweinwyr a deithiodd i'r gynhadledd (o'r chwith i'r dde): Gamal Abdel Nasser, cadeirydd Cyngor Chwyldroadol yr Aifft; Hussein, brenin Iorddonen; Kwame Nkrumah, Prif Weinidog y Traeth Aur; a Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India.

Rhestr y gwledydd a gynrychiolwyd

 
Map sydd yn dangos y gwledydd a gynrychiolwyd yn y gynhadledd mewn lliw gwyrdd.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Bandung Conference. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Chwefror 2020.