Sherlock Holmes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 47:
Ni fu mewn perthynas rhamantus â menyw erioed. Yn ei eiriau ei hun, "Dwi erioed wedi caru ..."
 
Yn "A Scandal in Bohemia", yr unig achos lle mae'n methu, mae ymddangosiad yr unig fenyw a ystyriodd yn gyfartal yn ddeallusol a'r unig fenyw a'i trechodd erioed. Ei henw yw Irene Adler. <ref>{{Cite web|title=Irene Adler - Official Conan Doyle Character|url=httphttps://arthurconandoyle.co.uk/character/irene-adler|website=The Official Conan Doyle Estate Ltd.|access-date=2020-02-19}}</ref> Cafodd ei geni yn [[New Jersey]] ac roedd hi'n [[Opera|gantores opera]]. Cafodd berthynas Irene perthynas rhamantaidd gyda brenin [[Bohemia]].
 
Mae agwedd Holmes i fenywod yn sarhaus. Mae o'n credu bod merched yn poeni gormod am bethau dibwys a bod eu cymelliadau yn annealladwy. Mae'n credu na ddylai dyn ymddiried mewn merched gan eu bod yn greaduriaid anonest. Er bod y gred bod merched yn israddol i ddynion yn gyffredin yn ei gyfnod, mae agwedd Holmes yn waeth na'r cyffredin. Mae hyd yn oed Watson yn nodi bod ei agwedd yn erchyll. Er hynny pan fo Holmes yng nghwmni merched mae'n eu trin yn gwrtais ac mewn modd bonheddig. Does dim yn ei diffyg hoffter o fenywod i awgrymu ei fod yn hoyw. (Byddai bod yn hoyw yn anghyfreithiol yn ei ddydd a byddai ysgrifennu am arwr hoyw yn sgandal). Mae ei agwedd yn bennaf oherwydd ei fod yn ddyn oer sy'n casáu emosiwn.
 
== Cyfeiriadau ==