Cynhadledd Bandung: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Gedung.Merdeka.jpg|bawd|Gedung Merdeka, y neuadd gyfarfod yn ystod y gynhadledd.]][[Delwedd:Asian–African Conference at Bandung April 1955.jpg|bawd|Rhai o'r gwladweinwyr a deithiodd i'r gynhadledd (o'r chwith i'r dde): [[Gamal Abdel Nasser]], cadeirydd Cyngor Chwyldroadol yr Aifft; [[Hussein, brenin Iorddonen]]; [[Kwame Nkrumah]], Prif Weinidog y Traeth Aur; a [[Jawaharlal Nehru]], [[Prif Weinidog India]].]]
Cyfarfod o ddiplomyddion o nifer o wledydd [[Asia]] ac [[Affrica]] oedd '''Cynhadledd Bandung''' a gynhaliwyd yn ninas [[Bandung]] ar ynys [[Gorllewin Jawa]], [[Indonesia]], o 18 Ebrill i 24 Ebrill 1955. Trefnwyd y gynhadledd gan lywodraethau Indonesia, [[Byrma]], [[Seilón]], [[India]], a [[Pacistan|Phacistan]], a chynrychiolwyd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd gan ddirprwyon o 29 o wladwriaethau a thiriogaethau.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/event/Bandung-Conference |teitl=Bandung Conference |dyddiadcyrchiad=22 Chwefror 2020 }}</ref>
 
Ailddatganwyd gan Gynhadledd Bandung y pump egwyddor a gynhwysir yng Nghytundeb India a Tsieina ynghylch Tibet (1954): cyd-barch at [[cyfanrwydd tiriogaethol|gyfanrwydd tiriogaethol]] a [[sofraniaeth]]; anymosodedd; anymyrraeth; cydraddoldeb a chyd-fuddiannau; a [[cydfodolaeth heddychlon|chydfodolaeth heddychlon]]. Yn y blynyddoedd i ddod, datblygodd cydweithrediad rhyngwladol ymhellach yn annibynnol ar [[maes dylanwad|feysydd dylanwad]] [[Unol Daleithiau America]] a'r [[Undeb Sofietaidd]], y ddau [[uwchbwer]] a fu ar naill ochr [[y Rhyfel Oer]]. Wrth i broses [[datrefedigaethu]] fynd ati, dygwyd mwy o wladwriaethau annibynnol yn rhan o'r hyn a elwir [[y Trydydd Byd]], mewn cyferbyniad â'r [[byd y Gorllewin|Gorllewin]] a'r [[bloc Comiwnyddol]], ac yng Nghynhadledd Beograd yn 1961 sefydlwyd [[y Mudiad Amhleidiol]].
 
== Rhestr y gwledydd a gynrychiolwyd ==