Rhyfel Cyntaf Tsietsnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ast:Primera guerra chechena
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
Cafodd [[Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd|y Blaid Gomiwnyddol]] yng [[Tsietsnia|Ngweriniaeth Tsietsnia]] ei dymchwel gan fudiad [[poblyddiaeth|poblyddaidd]] [[Dzhokar Dudayev]] a ddatganodd annibyniaeth oddi ar Ffederasiwn Rwsia ar 1 Tachwedd 1991. Wnaeth lluoedd arfog Rwsiaidd yn y weriniaeth ffoi yn raddol, gan alluogi gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i anrheithio'r arfdai milwrol ffederal a chael gafael ar arfau.
 
Ar gychwyn y gwrthdaro, ffafriodd [[Arlywydd Ffederasiwn Rwsia]], [[Boris Yeltsin]], ymgyrch [[baner ffug]] ar ffurf gwrthryfel mewnol gyda chefnogaeth gudd yr [[Gwasanaeth Diogelwch Ffederal (Ffederasiwn Rwsia)|Gwasanaeth Diogelwch Ffederal]] (FSB). Credodd na fyddai rhyfel rhwng [[clan]]iau ym ymddangos yn annisgwyl yng [[llwyth|nghymdeithas lwythol]] Tsietsnia.<ref>O'Ballance (1997), tt. 175&ndash;6.</ref> Ar 5 Rhagfyr 1994, cydnabodd Yeltsin rhan Rwsia yn ymosodiadau gan filisia [[Ruslan Khasbulatov]] ar faes awyr a phalas arlywyddol y brifddinas [[Grozny]] ar 25 Tachwedd.<ref>O'Ballance (1997), tt. 176&ndash;7.</ref> Anfonodd lluoedd Rwsiaidd i Tsietsnia fel rhan o Ymgyrch y Don yn Rhagfyr 1994 ac Ionawr 1995 gan lwyddio i gipio'r brifddinas ym [[Brwydr Grozny (1994&ndash;1995)|Mrwydr Grozny]], a thros yr ugain mis nesaf buont yn brwydro [[rhyfela herwfilwrol|rhyfelwyr gerila]] yn ardaloedd mynyddig y weriniaeth.
 
Methodd Yeltsin i ragweld maint a brwdfrydedd y gwrthsafiad Tsietsniaidd, undod y Tsietsniaid, er gwaethaf eu gwahaniaethau llwythol, yn erbyn Rwsia, a'r tueddiad hanesyddol o fethiant ymgyrchoedd milwrol yn ystod gaeaf [[Cawcasws (ardal)|y Cawcasws]].<ref>O'Ballance (1997), t. 179.</ref> Wrth i'r rhyfel fynd yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith cyhoedd Rwsia, datganodd Yeltsin [[cadoediad|gadoediad]] cyn [[etholiad arlywyddol Ffederasiwn Rwsia, 1996|etholiad arlywyddol 1996]] ac arwyddwyd cytundeb ar 31 Awst 1996 i ddod â therfyn i'r rhyfel. Ni ddatrysodd y cytundeb yr anghydfod dros statws cyfansoddiadol Tsietsnia, a dechreuodd [[Ail Ryfel Tsietsnia]] ym 1999.