Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
==Yr adroddiad ==
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams (gwleidydd)|William Williams]], [[Aelod Seneddol]] [[Coventry]] ond Cymro o [[Llanpumsaint|Lanpumsaint]], [[Sir Gaerfyrddin]] yn wreiddiol. Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn Sais-addolwr. Yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "''instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English''". Troi'n Sais o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "''the existence of an ancient language''".<ref>Dyfynnir yn Gwynfor Evans, ''Aros Mae'' (Abertawe, 1971), t. 260</ref>
 
Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] yn [[1831]], y [[Mudiad y Siartwyr|Siartwyr]] yn [[Y Drenewydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]] yn [[1839]] a [[Merched Beca]] trwy gydol y ddegawd cyn [[1846]], roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r [[Gymraeg]] a diffyg addysg ([[Saesneg]]) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion. Meddai'r ''[[The Times|Times]]'' o [[Llundain|Lundain]] am y Gymraeg: