Crëyr glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 35:
===Gwynedd a Môn===
DOSBARTHIAD Y CREYR GLAS YNG NGWYNEDD
Fe welwch ar y map mai ar hyd y glannau, gan mwyaf, y mae'r creyr yn nythu yn y sir. Ceir mwy o greyrfeydd fodd bynnag, ar hyd arfordiroedd “meddal” tywodlyd megis rhai gorllewin [[Môn]], de [[Llŷn]], a gorllewin [[Meirionnydd|Meirion]], nag ar hyd y glannau creigiog. Nid yw'r duedd hon mor gref ym Mon — ceir mwy o nythod ymhell o'r glannau yn y fan honno. Mae'r boblogaeth yn gryf hefyd, os yn wasgaredig, ar hyd y [[Y FenaiMenai|Fenai]], efallai oherwydd yr amodau cynhyrchiol a chysgodol sydd i'w cael yno</br>
Ymddengys mai ar yr aberoedd a'r traethau y mae prif gynhaliaeth y crëyr yng Ngwynedd, gyda'r afonydd a'r llynnoedd yn cael eu defnyddio i raddau llai. Mae'n debyg fod eu hangen am goedlannau tal, diogel yn cyfyngu rhywfaint ar eu dewis o nythfa. Ar ôl cynefin ffrwythlon i hel ei damaid, y peth nesaf ar restr y creyr o angenrheidiau bywyd yw coed addas, diogel i godi nyth. Dyma'r mathau o goed a ddefnyddiwyd yn yr wythdegau yn '[[Sir Gaernarfon]]', yn nhrefn eu poblogrwydd: Sbriws[[sbriws]], Llarwydd[[llarwydd]], Ceirios[[ceirios]], Ffynidwydd[[ffynidwydd]], Derw[[derw]], Gwern[[gwern]], Ffawydd[[ffawydd]], a llwyni isel.
 
EI HEN HANES