Crëyr glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 48:
I wneud y gorau posib o'r holl wybodaeth, gallwn amcangyfrif yn weddol gall bod oddeutu 230-250 o grehyrod yn nythu. yn y sir pan fu'r boblogaeth ar ei anterth yn yr wythdegau. Yn 'Sir Caernarfon' y bu'r boblogaeth ar ei chryfaf. Mae'r graff yn dangos trai a llanw ym mhoblogaeth y crëyr dros y cyfnod. Cafwyd nifer mawr i ddechrau, ond gostyngodd yn raddol tan tua chanol y ddegawd, cyn codi unwaith eto tua'i diwedd. Bu'r boblogaeth tra ar ei chryfaf, bron ddwbl yr hyn ydoedd ar ei gwanaf, yn ôl y sampl beth bynnag.
 
Bu'r trai yn gryfach ym Meirion nag ym Môn, ond daeth y cynnydd diweddaraf i ran crehyrod Môn a Meirion fel ei gilydd. Ni fu'r data o 'Sir Caernarfon' yn ddigonol i ganiatau yr un ymdriniaeth ystadegol. Ni ddilynodd pob creyrfa yr un patrwm dros y ddegawd. Er enghraifft, methodd creyrfa Plas Tan y Bwlch (Maentwrog) adennill ei thir yn unol â'r duedd gyffredinol. Ymddangosodd y greyrfa hon am y tro cyntaf yn 1972; cynyddodd i 16 o nythod erbyn 1980, ond dau nyth yn unig oedd yno erbyn diwedd y ddegawd. Aeth creyrfa Penmachno hefyd yn groes i'r duedd mewn ystyr arall. Sefydlwyd y greyrfa ddiweddar hon 800 troedfedd uwchlaw'r mor — Ilawer uwch na'r rhelyw o nythod yn y sir. Ambell bar yn unig fydd yn mentro nythu yn y mynydd-dir gan amlaf, a hynny ambell flwyddyn yn unig (gweler y marciau ‘?’ ar y map).<ref>Duncan Brown (1991) Y Crëyr Glas yng Ngwynedd (Dan Haul, rhifyn 1)</ref>
===Y Sefyllfa Ehangach===
Mae'r nifer o grehyrod yng ngwledydd Prydain heddiw yn uwch nag erioed o'r blaen yn hanes yr Arolwg (1928-89) (Marchant 1990). Graddol iawn fu'r cynnydd, ac fe ddioddefodd y boblogaeth yn arw iawn ar ôl gaeafau caled 1947 a '63. Nid yw'r wybodaeth o Wynedd, a gafwyd ar y pryd, yn ddigonol i ganiatáu i ni farnu p'un ai oedd hynny yn wir yno ai peidio. Gellid disgwyl i fwynder yr aberoedd a'r arfordir liniaru rhywfaint ar effeithiau gwaethaf gaeafau o'r math.