O Gors y Bryniau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cyfrol o storïau byrion gan y llenor Kate Roberts yw '''O Gors y Bryniau'''. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1925. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Ro...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cyfrol o storïau byrion gan y llenor [[Kate Roberts]] yw '''O Gors y Bryniau'''. Fe'i cyhoeddwyd gan [[Hughes a'i Fab]], [[Wrecsam]], yn [[1925]]. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Roberts gyhoeddi dan ei henw ei hun (cyhoeddasai ddrama dan y ffugenw 'Margaret Price' yn [[1923]]).
 
Ceir naw stori fer yn y gyfrol: 'Y Man Geni', 'Prentisiad Huw', 'Hiraeth', 'Yr Athronydd', 'Newid Byd', 'Y Llythyr', 'Pryfocio', 'Y Wraig Weddw', a 'Henaint'. Merch ifanc 23 oed oedd Kate pan ysgrifennodd y storïau hyn ac mae ffresni a dychymyg ieuenctid yn perthyn iddyn nhw. Mae nhw'n agosach i'r traddodiad gwerinol lleol, i ryw raddau, na'i gwaith mwy caboledig diweddarach. Cyflwynodd yr awdures y gyfrol 'i goffadwriaeth Richard Hughes Williams' ([[Dic Tryfan]]), meistr arall ar y stori fer o'r un ardal.
 
==Llyfryddiaeth==
===Argraffiadau===
*''O Gors y Bryniau'' (Wrecsam, 1925; ail arg. 1926, 3ydd 1932)
 
===Astudiaethau===
*Alun T. Lewis, "Crefft y Storïau Byrion" yn, Bobi Jones (gol.), ''Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged'' (Dinbych, 1969)
 
{{eginyn}}