John Owen Jones (ap Ffarmwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
== Gyrfa ==
Ar ôl ymadael a'r brifysgol aeth ap Ffarmwr i [[Llundain|Lundain]] lle fu'n gweithio fel gohebydd y ddinas i bapur [[y Genedl Gymreig]]. Dychwelodd i Fôn i gadw ysgol ramadeg wrth barhau i ohebu i'r Genedl Gymreig a chyhoeddiadau eraill. Yn ystod y cyfnod yma bu'n ysgrifennu darnau barn ddylanwadol. Ysgrifennodd am gyflwr yr [[Eglwys Loegr|Eglwys Sefydledig]] mewn plwyfi gwledig mawr. Ei golofnau mwyaf dylanwadol oedd y rhai am gyflwr cyflogaeth gweision ffarm. O ganlyniad i'w erthyglau cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i drafod sefyllfa'r gweision fferm trwy Gymru gyfan. Cynhaliwyd gorymdaith fawr yn [[Llangefni]] a chafodd ap Ffermwr ei gario ar ysgwyddau rhai o'r gorymdeithwyr trwy'r dref. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3760466|title=MARWOLAETH AP FFARMWR - Y Werin|date=1899-03-11|accessdate=2020-02-27|publisher=D. W. Davies & Co.}}</ref>
 
Bu'r ymgyrch yn rhannol lwyddiannus. Torrwyd y nifer o oriau roedd disgwyl i'r gweision gweithio pob wythnos a bu rhywfaint o wella mewn amodau eraill. Methodd a gwireddu ei freuddwyd o ffurfio undeb i'r gweision fferm. Bu'r ymgyrch ar ran gweision fferm yn unig. Parhaodd y morwynion fferm i weithio oriau hir am gyflog tlawd. <ref>{{Cite book|edition=|title=Our mothers' land : chapters in Welsh women's history, 1830-1939|url=https://www.worldcat.org/oclc/772523637|publisher=Gwasg Prifysgol Cymru|date=2011|location=Caerdydd|isbn=978-0-7083-2341-0|oclc=772523637|last=John|first=Angela V|year=|pages=}}</ref>