Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Rhyfel Byd Cyntaf Yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 265:
* Cafwyd nifer o derfysgoedd, chwyldroadau a streiciau ar draws Ewrop, er enghraifft, rhyfel cartref yn Rwsia; chwalu ymerodraeth Awstria-Hwngari a dymchweliad teulu’r Hapsburg; streicau yn yr Eidal a chwyldro ymhlith byddin a llu awyr Groeg.
 
* Gorfodwyd nifer o gytundebau ar yr Almaen yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 gan y ‘Pedwar Mawr’ (Prydain, Ffrainc, Unol Daleithiau America a’r Eidal).  Y cytundeb heddwch enwocaf ymhlith rhain oedd Cytundeb Versailles.  Arwyddwyd y cytundeb yma yn Neuadd y Drychau, Palas Versailles, tu allan i Baris, ym Mehefin 1919, ar ôl chwech mis o drafodaethau . Nid David Lloyd George oedd yr unig Gymro oedd yn arweinydd rhyngwladol ac a oedd yn bresennol yng Nghynhadledd Heddwch Versailles, ger Paris yn 1919. Yr arweinydd arall o dras Cymreig oedd Billy Hughes, neu William Morris Hughes, sef Prif Weinidog Awstralia (1915-23), a'r Cymro Cymraeg cyntaf i fod yn Brif Weinidog ar y wlad newydd honno. Fel Lloyd George, roedd wedi astudio'r gyfraith ac er iddo gael ei eni yn Llundain, pan fu farw ei fam aeth i fyw at chwaer ei dad i gael ei fagu yn Llandudno. Ymfudodd i Awstralia yn 1884 ble pasiodd fel bargyfreithiwr a dod ynAelod Seneddol yn Awstralia yn 1901. Ei lysenw oedd 'Little Digger' oherwydd ei sgiliau fel arweinydd gwlad adeg rhyfel. Yn wahanol i Lloyd George credai bod rhaid i'r Almaen gael ei chosbi'n llym am ei rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.<ref>{{Cite web|url=https://hwb.gov.wales/search?query=Cytundeb%20Versailles&strict=true&popupUri=%2FResource%2Fa9997049-967e-4016-a01f-86f8bc41ae18|title=Cytundeb Versailles|date=|access-date=|website=HWB|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
* Chwalwyd Ymerodraethau yr Almaen, Otoman a Rwsia gyda nifer o wladwriaethau a gwledydd newydd yn cael eu creu o’r newydd, er enghraifft, Twrci.