Tylluan Wen (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
 
== Cynllun ==
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd i'r ardal lle ganed hwy i ddial ar Ifor Preis, ei chyn prifathro, am farwolaeth ei thad. Mae hi'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi ei pherthynas ac Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Gwnaeth Ifor Preis, yn gandryll, ceisio ei thagu cyn ei gollwng. Nawr mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben gyda'i thelyn. Gwelodd merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddied, a rhedeg i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan i wthio Gwen allan o'r ffordd. mae hi hefyd yn ofni nifer o bethau fel ceir ac llaeth ac mae yna rhesymau tu ol hyn.
 
Newidiodd Martha ei enw o Eirlys i wneud yn siŵr byddai neb yn ei adnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn disgybl yn yr ysgol, yn darganfod pwy ydy wrth iddo weld hen lun ysgol.