Afon Cynfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Afon fynyddig ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw '''Afon Cynfal'''. Mae hi ymhlith yr harddaf yn Eryri ac yn dwyn cysylltiad â sawl traddodiad llên gwerin. Mae hi'n...
 
llun o Lech Gronw
Llinell 1:
[[Afon]] fynyddig ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]], yw '''Afon Cynfal'''. Mae hi ymhlith yr harddaf yn [[Eryri]] ac yn dwyn cysylltiad â sawl traddodiad [[llên gwerin]]. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r [[Migneint]] i ymuno ag [[Afon Dwyryd]]. Ei hyd yw tua wyth milltir.
 
==Cwrs yr afon==
Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir [[cors]]iog uchel agored rhwng [[Ffestiniog]] ac [[Ysbyty Ifan]]. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o [[Llyn Conwy|Lyn Conwy]] yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filtir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan [[Pont|bont]] bach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'r tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger Llyn y Dywarchen.
 
Llinell 6 ⟶ 7:
 
==Llech Gronw==
[[Delwedd:Llech Gronw.jpg|300px|bawd|'''Llech Gronw''' ar lan '''Afon Cynfal''']]
Llecyn arbennig ar lan Afon Cynfal yw '''Llech Gronw''' neu '''Llech Ronwy'''. Hen [[Maen hir|faen hir]] â thwll yn ei ganol ydy o, sy'n gorwedd ar ei wastad bellach ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y Bont Newydd. Yn ôl traddodiad dyma'r maen a roddodd [[Gronw Pebr]] (neu Gronwy Pefr), un o arwyr y [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]]. Roedd yn gariad i [[Blodeuwedd|Flodeuwedd]] a mynnodd [[Lleu Llaw Gyffes]] ddial arno am gysgu â'i arglwyddes. Taflodd waywffon ato ac mi aeth drwy'r garreg a Gronw hefyd, gan ei adael yn gelain. Ceir yr hanes yn y Bedwaredd Gainc ([[Math fab Mathonwy]]). Ar ddiwedd yr adran honno o'r chwedl mae'n dweud:
:Ac yna y llas (lladdwyd) Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.
 
Hefyd yn yr ardal mae Bryn Cyfergyr (Bryn Cyfergyd heddiw), y cyfeirir ato yn y Bedwaredd Gainc.
 
==Darllen pellach==
Cewch rhagor am Lech Gronwy a'r chwedl yn nodiadau golygiad [[Ifor Williams]] o'r ''Pedair Cainc'' (Caerdydd, 1930 ac argraffiadau diweddarach).
 
[[Categori:Afonydd Gwynedd|Cynfal]]