Iestyn Tyne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
 
==Bywyd cynnar ac addysg==
Mae Iestyn yn fab ffarm o [[Boduan|Foduan]] ym [[Pen Llŷn|Mhen Llŷn]]. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Yn 2017 priododd Iestyn a Bethany Celyn ond nid oedd hi yn briodas lwyddianus. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf ac [[Ysgol Uwchradd Botwnnog]]. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiaeth o'r creadigol a'r ymarferol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (''Dwyn y Dail'', 2015) ac albwm (''Lle awn ni nesa'?'', 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand [[Gwilym Bowen Rhys]].
 
Wedi hynny aeth i astudio ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.<ref>{{dyf gwe|url=http://stafellgerdd.blogspot.com/2018/10/iestyn-tyne-cyfweliad.html|teitl=Iestyn Tyne (Cyfweliad)|cyhoeddwr=Blog Stafell Gerdd|dyddiad=1 Hydref 2018|dyddiadcyrchu=18 Ionawr 2019}}</ref>