Afon Seiont: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Afon Seiont''' yn [[afon]] weddol fer (tua 20 km) yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]].
 
Ystyrir fel rheol fod Afon Seiont yn tarddu yn [[Llyn Padarn]] ger pentref [[Cwm-y-glo]], ond gelwir yr afon yn Afon Rhythallt am y rhan gyntaf o't thaith tua'r môr, hyd nes cyrraedd Pont Rhythallt. O'r fan honno ymlaen gelwir hi yn Afon Seiont. Mae'n llifo trwy bentref [[Pont-rug]] a heibio [[Caeathro]] cyn cyrraedd [[Caernarfon]], lle mae'n cyrraedd y môr gerllaw [[Castell Caernarfon]].
 
Ceir pysgota da am [[Eog]] a [[Brithyll]] yn Afon Seiont. Credir fod yr enw [[Segontium]] ar y [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer Rufeinig]] yng Nghaernarfon wedi dod o enw'r afon, sy'n llifo heibio'r gaer honno cyn cyrraedd y dref.
 
[[Categori:Afonydd Gwynedd|Seiont]]
[[Categori:Afonydd Cymru|Seiont]]