Prifysgol Lausanne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B egluro |
||
Llinell 4:
Sefydlwyd Ysgol Lausanne ({{iaith-la|Schola Lausannensis}}) yn 1537, yn ystod [[y Diwygiad Protestannaidd]], wedi i luoedd [[canton Bern]] gyfeddiannu Vaud a'i hymgorffori yn rhan o Hen Gydffederasiwn y Swistir. Dyma oedd yr unig ysgol ddiwinyddol i hyfforddi gweinidogion [[Protestannaidd]] [[Ffrangeg]] eu hiaith, er [[Lladin]] oedd iaith y gwersi. Erbyn 1547 roedd y celfyddydau, ieitheg [[Groeg (iaith)|Roeg]], ac ieitheg [[Hebraeg]] yn rhan o'r cwricwlwm. [[Calfiniaid]] oedd diwinyddion Lausanne, a buont yn gwrthdaro â'r [[Zwingli|Zwinglïaid]] a oedd yn llywodraethu Bern. Agorwyd adeilad yr Academi yn 1587.<ref>{{eicon fr}} "[https://www.unil.ch/central/home/menuinst/unil-en-bref/hier-et-aujourdhui/lunil-au-16e-siecle.html L'UNIL au 16e siècle]", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.</ref> Yn 1621 rhoddwyd i'r Academi gan lywodraeth Bern yr awdurdod i benodi gweinidogion i'r Eglwys Ddiwygiedig yn ogystal â'u hyfforddi, a bu'r ysgol yn meddu ar y fraint honno nes 1838.<ref>{{eicon fr}} "[https://www.unil.ch/central/home/menuinst/unil-en-bref/hier-et-aujourdhui/lunil-au-17e-siecle.html L'UNIL au 17e siècle]", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.</ref> Erbyn 1741 roedd saith o gadeiriau academaidd gan yr ysgol: [[diwinyddiaeth ddogmataidd]], dadleuaeth ddiwinyddol, Hebraeg a'r [[holwyddoreg]], Groeg a moesoldeb, athroniaeth (gan gynnwys mathemateg a ffiseg), [[areithyddiaeth]] a llenyddiaeth, a'r gyfraith (sifil a naturiol), ac yn 1766 penodwyd yr athro meddygaeth cyntaf.<ref>{{eicon fr}} "[https://www.unil.ch/central/home/menuinst/unil-en-bref/hier-et-aujourdhui/lunil-au-18e-siecle.html L'UNIL au 18e siècle]", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.</ref>
Yn 1837, newidiodd swyddogaeth yr Academi yn sylweddol: nid oedd bellach yn ysgol ddiwinyddol ond yn sefydliad addysg seciwlar er hyfforddi a gwobrwyo cymwysterau i ddynion yn y proffesiynau, ac i gynnal diwylliant llenyddol a gwyddonol.
== Cyfeiriadau ==
|