Eglwys Gadeiriol Aberhonddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Eglwys gadeiriol fechan yw '''Eglwys gadeiriol Aberhonddu'''. Nid yw'n hynafol iawn yn ei ffurf bresennol ond mae ei gwreiddiau'n gorwedd yn yr 12fed ganrif a chyfnod y [[Nor...
 
llun
Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwys Aberhonddu D.Cox W.Radclyffe.JPG|300px|bawd|'''Eglwys Gadeiriol Aberhonddu''' tua chanol y [[19eg ganrif]]]]
[[Eglwys gadeiriol]] fechan yw '''Eglwys gadeiriol Aberhonddu'''. Nid yw'n hynafol iawn yn ei ffurf bresennol ond mae ei gwreiddiau'n gorwedd yn yr [[12fed ganrif]] a chyfnod y [[Normaniaid]] yn [[Aberhonddu]].
 
==Y priordy cynnar==
Sedydlwyd Priordy [[Urdd Sant Benedict|Benedictaidd]] [[Ioan]] Efengylydd ar ddiwedd y [[12fed ganrif]]. Buasai [[Gerallt Gymro]] yn archddiacon yn y priordy yn [[1172]]. Yn ddiweddarach glawodd yno gyda'r [[Archesgob Baldwin o Gaer-grawnt]] yn [[1188]] yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] yn y flwyddyn honno, ar ei ffordd o [[Henffordd]] i [[De Cymru|Dde Cymru]]. Nid oes llawer yn aros o'r adeilad Benedictaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r [[13eg ganrif|13eg ganrif]] a'r ganrif olynol. Dinistriwyd cryn dipyn o gymeriad yr eglwys yn ystod y [[Diwygiad Protestannaidd]].
 
==Yr eglwys ganoloesol==
Yn yr [[Oesoedd Canol]] roedd yr eglwys yn enwog am ei [[Crog|Chrog]]. Cerflun anferth o groes [[Crist]] oedd hi, yn hongian uwchben yr Ysgrîn a rannai'r eglwys yn ddau - un hanner i'r lleygwyr a'r llall i'r mynachod. '''Crog Aberhonddu''' oedd ei henw, a cheir nifer o gyfeiriadau ati yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Roedd yn aur i gyd a chredid ei bod yn gallu iacháu'r claf. Roedd pobl yn dod ar [[Pererindota|bererindod]] iddi o bob rhan o dde Cymru a'r Gororau. Cafodd y Grog ei difetha pan ddiddymwyd y priordy yn [[1537]], ond yn ffodus mae nifer o gerrig bedd canoloesol gyda chroesau blodeuog cerfiedig arnynt i'w gweld o gwmpas yr eglwys o hyd. Mae'r [[bedyddfaen]] Normanaidd wedi goroesi hefyd; mae'n enwog am y 30 o gwpannau wedi'u cerfio oddi amgylch ei wefus.
 
==Yr eglwys heddiw==
Cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol, fel nifer o eglwysi eraill, yn y [[19eg ganrif]]. Gyda [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] yn [[1923]], creuwyd esgobaeth newydd ar gyfer Aberhonddu ac [[Abertawe]] gyda eglwys Aberhonddu yn eglwys gadeiriol iddi.