Llion Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Newyddiadurwr, cynhyrchydd dogfen ac awdur o Gymru yw Llion Iwan. Mae'n gweithio trwy gyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae'n fab i'r gwleidydd a'r canwr [[Dafydd Iwan]]. [1]
 
Bu’n gweithio i’r North Wales Weekly News cyn ymuno â’r BBC lle bu’n gweithio’n amrywiol fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr.
 
Bu'n darlithio mewn newyddiaduraeth a ffilm ddogfen ym [[Mhrifysgol Bangor]].
 
O 2012-2016 roedd yn gomisiynydd cynnwys ffeithiol ar gyfer S4C, ac roedd yn Bennaeth Dosbarthu Cynnwys tan 2018. Yn 2019 ymunodd â chynnwys Da, cwmni cynhyrchu annibynnol wedi'i leoli yng Nghaernarfon.
 
Mae'n byw ym mhentref [[Caeathro]] ger [[Caernarfon]].