Legio V Macedonica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 16 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1230666 (translate me)
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3:
Mae'n debyg i'r lleng ymladd dros Augustus yn erbyn [[Marcus Antonius]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn [[31 CC]]. Wedi hynny, bu yn nhalaith [[Macedonia]], lle cafodd ei henw, hyd [[6]] O.C.. Yn y flwyddyn honno, sumudwyd hi i [[Oescus]] yn nhalaith [[Moesia]]. Bu'n ymladd yn erbyn y [[Parthia]]id dan y cadfridog [[Gnaeus Domitius Corbulo]], yna yn erbyn y gwrthryfelwyr [[Iddew]]ig o [[67]] ymlaen dan [[Vespasian]]. Roedd yn un o'r llengoedd a gipiodd a dinistrio [[Jeriwsalem]] yn [[70]] dan fab Vespasian, [[Titus]]. Wedi diwedd y rhyfel yma, dychwelodd i Oescus. Yn [[96]] roedd [[Hadrian]], a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarachh, yn dal swydd tribwn milwrol (''[[tribunus militum]]'') yn y lleng.
 
Yn [[101]], symudwyd y lleng i [[Dacia]] i ymladd yn erbyn y Daciaid dan [[Trajan]]. Wedi diwedd y rhyfel yma, symudwyd hi i [[Troesmis]] yn [[ScythiaSgythia MinorLeiaf]] yn nhalaith [[Moesia]]. Bu'n ymladd yn erbyn y Parthiaid eto dan [[Lucius Verus]] ([[161]]–[[166]]. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr [[Commodus]], gorchfygodd y [[Sarmatiaid]] dan arweiniad [[Pescennius Niger]] a [[Clodius Albinus]], a thua [[185]] cafodd y teitl ''Pia Constans'' neu ''Pia Fidelis''. Yn [[193]], cefnogodd [[Septimius Severus]] yn rhyfel cartref 193-197. Dychwelodd i Oescus yn [[274]], a bu yno nes dod yn rhan o fyddin yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]].
 
[[Categori:Llengoedd Rhufeinig]]