Flavius Aëtius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Roedd '''Flavius Aëtius''' neu '''Aetius''', (c. [[396]] - [[21 Medi]] [[454]]), yn gadfridog Rhufeinig yng nhyfnod olaf yr ymerodraeth yn y gorllewin. Mae'n fwyaf enwog am gael y gorau ar [[Attila]], brenin yr [[Hyniaid]] ym [[Brwydr Chalons|Mrwydr Chalons]] yn [[451]].
 
Ganed Aëtius yn Durostorum yn nhalaith [[Moesia]] ([[Silistra]], [[Bwlgaria]] heddiw). Roedd ei fam yn frodor o'r [[Eidal]] a'i dad yn [[ScythiaSgythia|Sgythiad]]d. Ymunodd a'r fyddin a daeth i amlygrwydd yn fuan. Treuliodd rai blynyddoedd fel gwystl, yn gyntaf yn llys [[Alaric I]], brein y [[Gothiaid]] (efallai 405–408), ac yn ddiweddarach yn llys [[Rugila]], brenin yr Hyniaid. Yn In [[425]], arweiniodd Aëtius fyddin o Hyniaid i'r Eidal i gefnogi [[Joannes]], oedd wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. Erbyn iddo gyrraedd [[Ravenna]] roedd Joannes eisoes wedi ei orchfygu a'i ddienyddio. Daeth Aëtius i gytundeb a [[Galla Placidia]], oedd yn rheoli dros ei mab ieuanc [[Valentinian III]], a phenodwyd ef i'r swydd o ''[[Magister militum]] per Gallias'' ("Meistr y Milwyr yng Ngâl").
 
Gorchfygodd Aëtius y [[Fisigothiaid]] ger [[Arles]]. Yn [[432]] aeth yn frwydr yn yr Eidal rhyngddo ef a chadfridog Rhufeinig arall, [[Bonifacius]]. Byddin Bonifacius gafodd y gorau o'r frwydr, ond clwyfwyd ef mor ddifrifol nes iddo farw rai misoedd wedyn. Rhwng [[433]] a [[450]], Aëtius oedd yn rheoli'r ymerodraeth yn y gorllewin mewn gwirionedd.