Ffatri Airbus UK, Brychdyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 40:
Yn Awst 2001 fe ddechreuodd gwaith ar y ‘ Ffatri orllewinol “ i adeiladu adain i’r ‘Superjumbo’ A380 ac fe agorwyd yng Ngorffennaf 2003. Fe wariwyd rhyw £350m ar y cyflesterau ac mae yr adeilad yn 400 meter o hyd a 200 meter o led, un o'r adeiladau mwyaf yn y wlad. Fe orffenwyd yr adain cyntaf ym Mawrth 2004; mae pob adain yn 36 meter o hyd ac yn pwyso rhyw 30 tunell. Yn lle hedfan mewn awyren cludo 'Beluga' mae maint yr adain yn golygu rhaid iddynt dechrau eu taith ar yr [[Afon Dyfrdwy]] i [[Mostyn]] lle meant yn cael eu cludio i [[Bordeaux]] ar y llong "Ville de Bordeaux". Fe hedfanodd yr A380 am y tro cyntaf yn Ebrill 2005 ac mae tua 190 wedi eu gwerthu i gwmniau hedfan y byd.
 
Ym mis Hydref 2006 fe werthwyd siar 20% a oedd gan BAE Systems yn Airbus, ac ers hynnu perchenog 100% o Airbus, a’r ddwy ffatri a sydd ganddynt ym Mhrydain Fawr, ym Mrychtyn a Filton, yw EADS ( European Aeronautic & Defence Systemsand Space ).
 
Yn nechrau 2008 mae cynllunio wedi dechrau am adeilad newydd `ffatri'r gogleddol` i'r awyren A350; mae yr A350 yn wahanol i'r awyrennau o'i blaen yn defnyddio CFC (Carbon Fibre Composite) yn lle alwminiwm i weithgynhyrchu yr adain.