Ymadawiad Arthur (cerdd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun newydd sbon danlli
y gerdd gyfan wedi'i chwanegu
Llinell 1:
[[Delwedd:T. Gwynn Jones - Ymadawiad Arthur 001.png|200px|bawd|''Ymadawiad Arthur a cherddi eraill'' (Caernarfon, 1910).]]
Cerdd Gymraeg enwog gan y bardd [[T. Gwynn Jones]] a enillodd y [[Cadair Eisteddfodol|Gadair]] iddo yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] yw '''''Ymadawiad Arthur'''''. Testun y gerdd yw'r chwedl am glwyfo'r [[Brenin Arthur]] ym [[Brwydr Camlan|mrwydr Camlan]] a'i "ymadawiad" dirgel i [[Ynys Afallon]].
 
==Y Gerdd==
 
<poem>
 
''Bet y march, bet y gwythur,
''Bet y gugaun cletyfrut,
''Anoeth bid bet i arthur.
- Llyfr Du Caerfyrddin
 
Goruwch cymloedd groch Camlan,
Lle'r oedd deufur dur yn dân,
Daeth cri o'r adwythig rawd,
Llaes ymadrodd - "Llas Medrawd!"
 
Moedrodd y gri dorf Medrawd
Oni throes yn eitha'i rhawd
Rhag newydd nwy' deufwy dur
A rhyferthwy torf Arthur.
 
Ac ymlid o faes Camlan
Uthr fu, onid aeth o'r fan,
I'r helynt ar eu holau
Mewn nwyd erch, bawb namyn dau.
 
Yno, mal duw celanedd,
A'i bwys ar garn glwys ei gledd,
Y naill oedd, a'r llall ger llaw
A golwg syn, yn gwyliaw.
 
"Arglwydd," eb hwnnw, "erglyw,
Ymaros, di achos yw;
Ateb, beth dderyw iti,
Neud, tost nad erlynnit ti!"
 
Ebr yntau: "Clyw, brwnt y clwyf
Hwn; clyw Fedwyr, claf ydwyf."
 
"Bid briw y byd!" ebr Bedwyr,
"Arthur drech, nis gorthrech gwŷr!"
 
"Deg clwyf," ebr Arthur, "di, clyw,
A naddodd fy mhen heddyw,
A minnau a gymynnais,
Do, gan glew am bob dygn glais;
Eithr Angau ar ruthr engur
Weithian gwân drwy'm gwythi'n gur.
Dwg fi hwnt."
 
"Di gei, fy ior,
Drigo," eb Bedwyr, "ragor
Yn dy wlad, can nis deil hi
O thrydd Arthur oddi wrthi!"
 
Troes gemliw wawl tros Gamlan
Oni bu coch wyneb can
A marw pawb o'r Cymry pur
Yno syrthiodd dros Arthur,
Ac onid oedd holl gnawd du
Drudion Medrawd yn madru!
 
Drwy waed, dros dyrrau o wŷr,
Heb adwy, dug braich Bedwyr,
Uthr ei nerth, arni Arthur,
Oedd lesg gan dduloes ei gur.
 
Yno'r oedd lannerch rhwng iraidd lwyni
A llen der wastad o feillion drosti,
Wynned oedd a phe dôi hi, - Olwen dlos -
Ar hyd yr hirnos i grwydro arni.
 
Er nad pell breithell chwerwaf y Brython,
Yr oedd llawen gerdd i'w llwyni gwyrddion,
Malpai taer wae'r ddaear hon fâi'n peri
O drueni, gân adar Rhiannon!
 
A chyrchu'r ofer o dan y deri
A orug Bedwyr drwy'r wig heb oedi;
"Y dwfr," ebr ef, "a'th ddwg di o'th ddwys-gur,"
A rhoddi Arthur i orwedd wrthi.
 
"Rhyw wyrth nid oes," ebr Arthur,
"Ynddi i'm codi o'm cur;
O'r drum, o bwri dremyn,
Di weli draw, is law, lyn
Gwrm, hir, a chreigiau'r marian
Yn crychu'i lif. Cyrch ei lan,
A chlud Galedfwlch lydan
Gennyd - y mau gleddau glân -
Hyd i lechwedd dal ucho
Ar draeth y llyn; ar fyrr dro,
Heb dy atal, bid iti
Fwrw y llafn i ferw y lli.
Tremia o ben y trum y bych,
Gwylia beth bynnag welych,
Cyd y bydd, ac wedi bo,
Dyred yn ol heb dario."
 
Dwfn fyfyr ar Fedwyr fu
Ymhlegid gweld amlygu
Dioddef ar wedd gynefin
A herio trais hacra trin.
 
Eithr codi'r cledd rhyfeddol
Wnaeth, ac yna aeth yn ol
Geiriau Arthur gawr wrthaw
I ael y drum uchel draw.
 
O'r drum rhoes Bedwyr dremyn,
A chafas faith, frychlas fryn
Tonnog, a marian tano.
Yn dres fraith ar draws y fro
'Roedd prydferth flodau'r perthi,
Unlliw ôd neu ewyn lli;
Dibrin flodau'r eithin aur
Mal haen o glych melynaur;
Mân flodau'r grug yn hugan
Ar y geillt o borffor gwan;
A gwrid yr haul ar grwydr hyd
Y bau bron bob rhyw ennyd
Yn newid lliw, troi dull hon,
A'i hen weddau'n newyddion.
 
Draw mal mor hyd hir ymyl y marian
Yn llinell lwyd, yr oedd min llyn llydan,
A'i gry lif ar greigiau'r lan yn codi
O hyd, a thorri fel brodwaith arian.
 
Eto er gwymped natur o'i gwmpas,
Hynny ni lwyddodd i'w ddal na'i luddias,
Nes i grawc anghynnes gras ei atal,
A mwyfwy'r gofal a'r myfyr gafas.
 
Bran ddu groch ar bren oedd grin,
Goelfawr a hir ei gylfin,
Fwriai'n oer, afar ei nwyd,
Fregliach o'r dderwen friglwyd.
 
Safodd Bedwyr, myfyr mud
Roes omedd ar ei symud -
Dir, gnawd i grawcian bran brud!
 
Eb Bedwyr: "Och! na boed rin,
Yn y grawc o'r goeden grin
Er y dywaid gair dewin -
 
'Glywaist ti a gant y fran,
Ai drwg ai da'r darogan,
Na fid cryf heb gleddyf glân.'
 
Llwybr i dranc y lle bo'r drin,
Diau na ddawr angau rin
Na breiniau glew na brenin.
 
Diau gwell i wlad yw gwas
Byw, na'r pennaf lyw a las -
Nid gwrdd trengedig urddas!"
 
Cododd Bedwyr y cadarn
Gledd gerfydd ei gelfydd garn,
A thremio'n hir a thrwm wnaeth
Ar ei gywrain ragoriaeth.
 
"Ba dro fyth," ebr Bedwyr, "fâi
Ddigon i'r sawl a'th ddygai
Galedfwlch rymus, glodfawr,
Heb falio a'th luchio i lawr,
Megys pedfai ddirmygwr,
Onid aet o dan y dwr!
A'n hil, Och! pa ryw farn lem
A gwall fâi'n rhan pe'th gollem
Dithau? Gan adwyth ei gur
Y dinerthwyd dawn Arthur,
Onitê, diau nad hyn
A barasai heb resyn!
Diogel mi a'th gelaf,
A gweld a ddigwyddo gaf."
 
Yn ol chwiliaw a chwalu grug a drain
Y graig, dro, o'i ddeutu,
Fe gafodd ef ogof ddu
A magwyr yn ei mygu.
 
Dychwelodd, edrychodd dro; - nid oedd ddyn,
Nid oedd anadl yno
Ond dwr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro.
 
O'i unigedd, bu'n agos, yn ei ffysg,
Iddo ffoi'n ddi annos, -
Trwm ar a gelo aros
Distawrwydd, unigrwydd, nos!
 
Yn ol i'r agen eilwaith, draw e droes
Drwy y drysi diffaith;
Gofalu ar gelu'r gwaith,
Gwrando, tremio, troi ymaith.
 
A phan ddaeth at y ffynnon,
Aeth, er ei bryder, ger bron
Y Brenin, a phenlino
A rhoir y gair orug o.
 
Ar hynny, ebr y Brenin,
A geiriau bloesg drwy gur blin:
"Ateb, a ddarfu iti
Fwrw y llafn i ferw y lli?"
 
"O'r daith," eb Bedwyr, "deuthym
Yma'n ol d'orchymyn ym."
 
Eb Arthur: "Nol aberthu
Y glaif hen, ba goel a fu?"
 
"Hyd y gwn, bid wiw gennyd,"
Eb ef, "ni bu goel o'r byd."
 
"Brau a thraws," eb Arthur, "yw
Hyn. Bedwyr - geudeb ydyw!
Celaist, awyddaist ei werth,
Galedfwlch, lafn goludferth;
Bedwyr, dychwel heb oedi,
A'r llafn bwrw dithau i'r lli!"
 
Heb dario i ateb, aeth Bedwyr eto,
Rhedeg i'r undaith er chwerwed gwrando
Ei deyrn yn dodi arno awgrym brad
A chas ddymuniad na cheisiodd mono.
 
"Diau'r gofid," eb Bedwyr, "a gafodd
Ef drwy iasau ei glwyfau a'i drysodd,
A'i bwyll yn hyn a ballodd gymaint hyd,
Er ei ddoedyd, nad ŵyr a ddywedodd.
 
"A minnau erddo, ac er mwyn urddas,
Ai rhaid yw arnaf ddinistrio'r deyrnas,
Colli er mwyn cymwynas, nawdd ein bro,
Fel, o fod hebddo, y'n trecho'n trachas?
 
"Ar fod ynghadw yr hen arf dynghedus
Y saif rhyddid ein teyrnas fawreddus;
Cwympem, pe'i collid, rhag llidus alon
A rhuthr âch estron, dan ortrech astrus."
 
Llyna'i fyfyr, Fedwyr, fal
Yr union groesai'r anial.
 
Yna rhag genau'r ogo,
Safodd ac edrychodd dro;
Eto, nid oedd yno ddyn
Yn ymyl, na swn, namyn
Twrw'r dwr, man lle torrai'r don,
Mwynder hiraethus meindon
Awel ymysg y dail mân,
Fel su hun felus anian.
 
"Diau, rhaid," eb Bedwyr, "hyn,
Mi wnaf y mae'n ei ofyn."
 
Gwyrodd i'r ogof - gerwin
Grêg wedn grawc o'r goeden grin
Eto barodd ei atal -
A fyddo ddof, hawdd ei ddal.
 
Eb Bedwyr: "Rhaid bod y rhin
A ddwyaid Myrddin ddewin
Yn y grawc o'r goeden grin.
 
"Gwae i'n tud o frud y fran,
A drwg oedd ei darogan -
'Na fid cryf heb gleddyf glân.'
 
"Rhag y drachas dras, pwy drig
Wetihian? Cwympodd dan ei dig
Uthr lewder Arthur Wledig!
 
"Di, falch lafn, Caledfwlch lym,
Draw na throed dy rin na'th rym,
O thrydd Arthur oddi wrthym!"
 
Ceisiodd Bedwyr bob cysur oedd ddichon
Wrth ddychwel yn brysur -
"Bid waith cad, bid waetha cur,
Mae y wyrth nad mwy Arthur!"
 
Yno ger bron y Brenin,
Wele ef yn plygu glin,
O barch, i gael ei arch o,
Eb Arthur, ar saib, wrtho: -
 
"Hir y buost a'r bywyd
Mau sydd yn byrhau o hyd;
Mynega imi'n gymwys
Ba argoel sydd, na fydd fwys."
 
Troes Bedwyr gan ynganu
"Un arwydd, f'arglwydd, ni fu,
Ond dwr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro."
 
"Atal!" eb Arthur, "eto,
Dir, cuddio'r drwg, ddiriaid dro,
Yr wyt, ac nid gwir iti
Fwrw y llafn i ferw y lli!
Di rhed, a'th dynghedu'r wyf,
Na fethych cyn na fythwyf;
Y breiniol gledd, bwrw hwnnw
I ferw y llyn - cofia'r llw!"
 
Crymodd Bedwyr, ac heb ateb, eto
Croesi'r ban farian wnaeth gan fyfyrio,
Oni chyrhaeddodd y llyn; chwerw iddo
Wneuthur i'w deyrn y gwaith a roed arno;
Eithr rhag cel drothwy'r ogo y safodd,
Plygodd, penlinodd mewn pannwl yno.
 
Trwy'r bwlch, dwyn Caledfwlch lân
O'r gwyll a orug allan.
 
Ei ddyrnfol aur addurnfawr,
Cywrain oedd, ac arni wawr
O liwiau gemau lawer,
Lliw'r tân a lliw eira ter;
Lliw gwaed rhudd, lliw gwydr a haul,
Neu ser ynghyfnos araul;
Ei hir lafn dur lyfned oedd
A difreg lif y dyfroedd,
A gloewed â gwiw lewych
Rhudd yr haul ar ddisglair ddrych.
 
Cododd Bedwyr, ac wedyn
Dringodd a safodd yn syn
Ar ymyl creigiog rimyn
Yn y llethr uwch ben y llyn.
Ebr ef: "Drymaf, uthraf awr!
Yn iach, Galedfwlch glodfawr.
O ferthaf gleddyf Arthur,
Gloewaf deyrn y gleifiau dur,
O daw barn am hyn arnom,
Mi a'm rhi, Duw farno rhôm!
O daw gwall am dy golli,
Adfered ef o'r dwfr di!"
 
'Roedd ei gawraidd gyhyrrau
A'i egni ef bron gwanhau,
Ond ar un naid er hynny,
Chwyfiodd ei fraich ufudd fry,
A'r arf drosto drithro drodd
Heb aros, ac fe'i bwriodd
Onid oedd fel darn o dân
Yn y nwyfre yn hofran;
Fel modrwy trwy'r gwagle trodd
Ennyd, a syth ddisgynnodd,
Fel mellten glaer ysblennydd,
A welwo deg wawl y dydd;
Ond cyn iddo daro'r dwr,
I'w wyneb daeth rhyw gynnwr';
Ar hyn o'r llyn cododd llaw
Gadarn, gan fedrus gydiaw
Yn ei garn, ac yna i gyd,
A deheurwydd drud wryd,
Codi'r cleddyf a'i chwyfio,
Gwaniad a thrychiad dri thro;
Yna'n ol hynny, wele,
Tan y dwfr y tynnwyd e!
 
Draw ar hynny aeth Bedwyr ar unwaith,
A buan y croesodd y marian maith;
Meddyliau chwim oedd eilwaith drwyddo
Efô yn gwibio, rhwng ofn o gobaith.
 
"A fu im, diau," eb ef, "mai dewin
Gwybodus a'i peris drwy rymus rin,"
Ac aeth rhwng grug ac eithin, thrwy'r fron
Lle'r oedd y meillion, ger bron y Brenin.
 
"Ba ryw antur fu, Bedwyr?" ebr yntau
Yn wannach ei lais na nych ei loesau;
"Dyred, byr fyddo d'eiriau, a dywed
Im rhag fy myned gan fyrred f'oriau."
 
Eb Bedwyr: "Arglwydd, llyma ddigwyddodd;
Y llain a dewlais; llaw wen a'i daliodd;
Trithro yn hy fe'i chwyfiodd, heb ballu,
Ac yna'i dynnu i'r eigion danodd."
 
"Ha Bedwyr annwyl! heb dario ennyd,
Yno yn gynnar, bid fy nwyn gennyd,"
Eb Arthur, "brys, canys cyd ag y bôm
Fal yma y buom, dadfeilia'm bywyd!"
 
Ysgôdd Bedwyr ei ysgwydd heb oedi;
Yn swrth o'r hirnych, rhoes Arthur arni;
"Saf," eb ef, "a dygaf di, yn fuan
Ar draws y marian, i'r fan a fynni."
 
Cerddodd Bedwyr heb orffwys, a'r pwysau
Yn tanio'i wyneb, tynhau'i ewynnau,
Er hyn heb i'r trymder wanhau gwydnwch
Na chaledwch ei ddi nych aelodau.
 
Teithiodd, cyrhaeddodd y llyn, a rhoddes
Arthur ar y fan geulan, a gweles
Yn angori long eres, - hwyliau hon
Mal y wendon dan liw y melyndes.
 
Rhodio ar ei hyd yr oedd
Firain ferched niferoedd;
Mor wych ei drych edrychai
Pob un â phob rhyw fun fâi
Laned ei gwedd, pan lenwynt
Byrth y gaer yn Arberth gynt.
Neu ban, bryd hedd, bâi wledd lon
I'r lluoedd yng Nghaer Lleon.
 
Ynghraidd y llong, ar ddull ail
I orsedd, 'roedd glwth eursail,
Ac ar ei gerfwaith cywrain
Gwrlid mwyth ysgarlad main.
Tair o addwyn forwynion
Ar sedd wrth yr orsedd hon
Eisteddai. Dlysed oeddynt!
Nid oedd gwedd Blodeuwedd gynt
O geinder ail; rhag gwyndawd
Perlog ne eu purloew gnawd,
Pylai gwawr y pali gwyn
A ymdonnai am danyn;
A lliw teg eu gwalltiau aur
Drwyddo fel cawod ruddaur.
Gyddfau a thalcennau can
Mal eira ymyl Aran;
Deufan goch pob dwyfoch deg,
Lliw gwin drwy wynlliw gwaneg.
 
Bu druan y rhianedd
Drwy weld gwan, dreuledig wedd
Y cadarn Wledig; codi
Wnaeth yr oll, a thua'u rhi
Daliodd y tair eu dwylaw
Yn brudd ym mudandod braw.
Ac ebr un o naddun hwy -
"I Arthur rhowch gynorthwy;
Awn ag ef o'i gynni i gyd
I sanctaidd Ynys Ienctid!"
 
Yna e gludodd Bedwyr y Gwledig,
Yn fedrus cariodd ef dros y cerrig;
Gwyliai'r rhianedd bonheddig, hwythau,
A'u mynwesau'n dychlamu yn ysig.
 
Breichiau glanach na'r sindal a'r pali
I'r gadair euraid a gaid i'w godi;
Gwynion ddwylaw fu'n gweini i'r Brenin,
A rhoddi gwin i larieiddio'i gynni.
 
"Dioer, o mynnwch," eb Bedwyr, "a minnau
I'm hola' hynt a ddeuaf mal yntau;
Ynghyd y buom ynghadau, ynghyd
O'r byd caffom ddiengyd ddydd angau."
 
Yna ar hyn, eb un o'r rhianedd:
"Bid iti dewi, ni ddaeth y diwedd;
Arthur byth ni syrth i'r bedd; tithau, dos,
Y mae'n d'aros waith cyn mynd i orwedd."
 
Bedwyr, yn drist a distaw,
Wylodd ac edrychodd draw.
 
Arthur lefarodd wrtho;
"Na bydd alarus," eb o;
"Mi weithion i hinon ha
Afallon af i wella;
Ond i fy nhud dof yn ol,
Hi ddygaf yn fuddugol
Eto, wedi delo dydd
Ei bri ymysg y broydd.
Hithau er dan glwyfau'n glaf,
Am ei hanes ym mhennaf
Dafodau byd, dyfyd beirdd,
Per hefyd y cân prifeirdd.
Pob rhyw newid, bid fal bo,
Cyn hir e dreiddir drwyddo;
A o gof ein gwaith i gyd,
A'r gwir anghofir hefyd.
Ar ein gwlad daw brad, a'i bri
Dau elyn dry'n drueni.
Ond o'r boen, yn ol daw'r byd
I weiddi am ddedwyddyd,
A daw'n ol, yn ol, o hyd
I sanctaidd Oes Ieuenctyd;
Daw ini wedyn adwedd,
A chân fy nghloch, yn fy nghledd
Gafaelaf, dygaf eilwaith
Glod yn ol i'n gwlad a'n hiaith."
 
Hwyliodd y bad a gadaw
Bedwyr mewn syn dremyn, draw.
 
Lledai'r hwyl gain mal adain ar ledwyr,
Yntau a glywodd o gant gloew awyr
Ddwsmel ar awel yr hwyr, - melusdon
Yn bwrw ei swynion ar bob rhyw synnwyr.
 
Llyma'r mawl rhyfeddawl fodd
O loew awyr a glywodd: -
 
"Dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhain hynny
Ddelo i'w phuraidd awel; a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon -
Ynys Afallon, honno sy felly!
 
Yno, fro ddedwydd, mae hen freuddwydion
A fu'n esmwytho ofn oesau meithion;
Byw yno byth mae pob hen obeithion,
Yno mae cynnydd uchel amcanion;
Ni ddaw fyth, i ddeifio hon, golli ffydd,
Na thrawd cywilydd na thoriad calon.
 
"Yno mae tân pob awen a gano,
Grym, hyder, awch pob gwladgar a ymdrecho;
Yni a ddwg i'r neb fynn ddiwygio,
Sylfaen yw byth i'r sawl fynn obeithio;
Ni heneiddiwn tra'n noddo, - mae gwiwfoes
Ag anadl einioes y genedl yno!"
 
Yn y pellter fel peraidd
Anadliad, sibrydiad braidd,
Darfu'r llais; o drofâu'r llyn
Anial, lledodd niwl llwydwyn;
Yn araf cyniweiriodd
Ac yno'r llong dano dodd
A'i chelu; fel drychiolaeth
Yn y niwl diflannu wnaeth.
 
Bedwyr, yn drist a distaw,
At y drin aeth eto draw.
 
</poem>
 
==Llyfryddiaeth==