O Gors y Bryniau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ychwanegiad
Llinell 1:
Cyfrol o storïau byrion gan y llenor [[Kate Roberts]] yw '''O Gors y Bryniau'''. Fe'i cyhoeddwyd gan [[Hughes a'i Fab]], [[Wrecsam]], yn [[1925]]. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Roberts gyhoeddi dan ei henw ei hun (cyhoeddasai ddrama dan y ffugenw 'Margaret Price' yn [[1923]]).
 
==Cynnwys==
Ceir naw stori fer yn y gyfrol: 'Y Man Geni', 'Prentisiad Huw', 'Hiraeth', 'Yr Athronydd', 'Newid Byd', 'Y Llythyr', 'Pryfocio', 'Y Wraig Weddw', a 'Henaint'. Merch ifanc 23 oed oedd Kate pan ysgrifennodd y storïau hyn ac mae ffresni a dychymyg ieuenctid yn perthyn iddyn nhw. Mae nhw'n agosach i'r traddodiad gwerinol lleol, i ryw raddau, na'i gwaith mwy caboledig diweddarach. Cyflwynodd yr awdures y gyfrol 'i goffadwriaeth Richard Hughes Williams' ([[Dic Tryfan]]), meistr arall ar y stori fer o'r un ardal.
 
==Beirniaid cyfoes==
*Rhaid inni edrych ar y llydr hwn fel carreg filltir bwysig yn ein twf llenyddol... mae 'O Gors y Bryniau' wedi brwr holl storïau byrion Cymru hyd yn hyn i'r cysgod. ([[W.J. Gruffydd]] yn ''[[Y Llenor]]'').
*Y mae llyfr fel hyn yn llawn o chwerthin a dagrau, a holl brofiadau bywyd o ran hynny... Dyma awdures sy feistes ar ei chrefft, wrth y safonau gorau. Fel y maent y gwêl hi bethau, ac ni thwyllir moni gan yr olwg ar y wyned. ([[T. Gwynn Jones]] yn ''[[Y Darian]]''.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 10 ⟶ 15:
*Alun T. Lewis, "Crefft y Storïau Byrion" yn, Bobi Jones (gol.), ''Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged'' (Dinbych, 1969)
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Kate Roberts]]