Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ymateb
Llinell 47:
 
::P.S. Dw i newydd sylwi bod yr un peth wedi digwydd ynglŷn â Brynhyfryd a Mount Pleasant. "Bryn hyfryd" yw'r ystyr llythrennol o "Mount Pleasant", mae'n wir – '''ond''' dwy ardal wahanol o Abertawe ydyn nhw, â bron i 3 km rhyngddynt... Am y rheswm hwn, dwedir – yn y Gymraeg yn union fel yn y Saesneg – "Brynhyfryd" a "Mount Pleasant" i wahaniaethu rhwng y ddau le. E.e.: ''Mae'r tai yn Mount Pleasant yn ddrutach na'r rheiny ym Mrynhyfryd''. -- [[Defnyddiwr:Jac-y-do|Jac-y-do]] 10:12, 30 Mawrth 2011 (UTC)
 
::: Dw i'n gweld y pwynt i ryw raddau ac yn derbyn fod yna anghysondeb o ran enw Brynmill yn Gymraeg. Mae rhai yn defnyddio Brynmill fel ag y mae ond mae rhai sefydliadau yn cyfeirio ato fel "Brynmelin". Mae rhain yn cynnwys Estyn, ond hefyd mae [http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8080000/newsid_8083200/8083242.stm erthygl ar wefan y BBC] yn cyfeirio at Lôn Brynmelin (sef Brynmill Lane yn Saesneg, sydd wrth ymyl Parc Singleton. Ceir hefyd [http://www.urdd.org/sites/default/files/Or_Newydd_15.02.11.pdf cerdd gan Nia Keinor Jenknins o'r enw Llyn Brynmelin] sy'n cyfeirio at y Llyn ym Mharc Brynmill. Mae'r papur bro lleol hefyd yn cyfeirio ato fel Parc Brynmelin ar wefan [http://www.menterabertawe.org/wilia/Wilia0708.pdf Menter Iaith Abertawe].
::: 'Does dim gwrthwynebiad enfawr gyda fi i symud y dudalen i "Brynmill" ond pan fo achosion o'r enw Cymraeg yn cael ei ddefnyddio, dw i'n meddwl y dylen ni aros gyda'r fersiwn Gymraeg. [[Defnyddiwr:Pwyll|Pwyll]] 19:47, 1 Ebrill 2011 (UTC)
 
== 194.168.30.220 ==