Aberfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
osgoi dyfalu - nid wyddom ni pa sawl plentyn fyddai wedi marw neu goroesi petaent yn y neuadd o hyd |
||
Llinell 9:
Ar ddydd Gwener yr [[21 Hydref|21ain o Hydref]] [[1966]], am 9.15 y bore, llithrodd tomen [[glo]] o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.
Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant swn mawr y tu allan.
Nid oedd yr Arglwydd Robens o Woldingham, cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi rhuthro i safle'r drychineb; yn hytrach aeth i gael ei benodi fel Canghellor Prifysgol Surrey. Yn ddadleuol iawn, dywedodd yn ddiweddarach na allai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud er mwyn osgoi'r tirlithriad.
|