Thomas James Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Fe'i ganwyd yn [[Tredegar|Nhredegar]], [[Blaenau Gwent]] a dechreuodd ei yrfa gerddodrol fel chwaraewr offerynau taro a [[cornet|chornet]] gyda [[Band pres|Band Pres]] Iau [[Byddin yr Iachawdwriaeth]]. Powell oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn angladd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, Cadfridog William Booth ar 27 Awst 1912.<ref name="melingriffith">{{cite web |url=http://melingriffith.co.uk/about/t-j-powell |title=Band Melingriffith: T.J. Powell |publishedpublisher=City of Cardiff Melingriffith Band}}</ref><ref>{{cite web |url=http://brassbandresults.co.uk/conductors/t-j-powell/ |title=Conductors: Thomas James Powell |publishedpublisher=Brass Band Results}}</ref>. Cyn dechrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] ymunodd â Band Tref Tredegar cyn ymuno â Band y Morfilwyr Brenhinol a pharhau â'i addysg cerddorol yn Ysgol Gerdd y Morfilwyr Brenhinol.
 
Ym 1920, dychwelodd i dde Cymru a chael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd ar Fand Corfflu Cadetiad a Gwirfoddolwyr Melingriffith yn [[Yr Eglwys Newydd]]. Gyda Powell yn arwain, dechreuodd Band Melingriffith wneud eu marc ar y byd bandiau pres gan godi o Ddosbarth "C" i Ddosbarth "A".
 
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - ''Castell Coch'', ''Castell Caerdydd'', ''Castell Caerffili'' a ''Caernarfon Castle'', gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines]] gyhoeddi arwisgiad [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Y Tywysog Siarl]]. Mae Powell yn cael ei gymharu â [[John Phillip Sousa]], cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau<ref name="brassbandresults">{{cite web |url=http://brassbandresults.co.uk/composers/t-j-powell/ |title=Composers: TJ Powell |publishedpublisher=BrassBandResults}}</ref>, gan ddwyn y teitl answyddgol; y ''Sousa Cymreig''.
 
Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio ''Challenging Brass'', BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain [[Band y Cory]] yn Stiwdio Gerddorfaol [[Caerdydd]] mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn [[Llundain]], ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio<ref name="melingriffith" />.