Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MICNPT (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
MICNPT (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
MaeSefydlwyd '''Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot''' yn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg2002 yng [[Castell-nedd Port Talbot|Nghastell-nedd Port Talbot]] ac o fewn ardal Aman Tawe. Mae'n gwmni cyfyngedig nid ar gyfr elw gyda Bwrdd Rheoli, Prif Swyddog a nifer o staff sydd yn gweithreu yn lleol. Maeswyddfa'r Fenter ynym darparu[[Pontardawe|Mhontardawe]]. ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn rhoi’r cyfle i bobl defnyddio’r iaith, ond hefyd yn annog ac yn darparu gwybodaeth i bobl di-gymraeg am y manteision a chyfleoedd sydd i ddysgu.
 
== Hanes a ChefndirCefndir ==
Pwrpas y Fenter yw i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yng Nhastell-nedd Port Talbot ac o fewn ardal Aman Tawe. Mae'n gwmni cyfyngedig nid ar gyfer elw gyda Bwrdd Rheoli, Prif Swyddog a nifer o staff sydd yn gweithreu yn lleol. Mae'r Fenter yn darparu ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn rhoi’r cyfle i bobl defnyddio’r iaith, ond hefyd yn annog ac yn darparu gwybodaeth i bobl di-gymraeg am y manteision a chyfleoedd sydd i ddysgu.
 
=== Hanes ===
Sefydlwyd y fenter yn Ebrill 2002 ar ôl i Fenter Aman Tawe gael ei rhannu’n ddwy. Datblygodd un hanner i fod yn Fenter Dyffryn Aman fel rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Myrddin yn Sir Gâr a ffurfiwyd Menter Iaith newydd sbon gyda’r hanner arall i wasanaethu Sir Castell-nedd Port Talbot.
 
Yn ystod cyfnod Menter Aman Tawe, a sefydlwyd yn 1994, yr ardaloedd a oedd yn cael eu gwasanaethu oedd Cwmtawe, Dyffryn Aman a rhannau o dde Powys ac Abertawe, ond yn dilyn grant ychwanegol gan [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg|Fwrdd yr Iaith]] yn 2002 llwyddwyd i ymestyn y gwaith ar draws Nedd Port Talbot gyfan ac agorwyd swyddfa ym Mhontardawe i gydlynu’r ymdrechion. Ysgogwyd y newidiadau hyn i raddau yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 a greodd Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ers ei sefydlu mae’r Fenter wedi datblygu nifer o flaengareddau a phrosiectau yn ystod y cyfnod hwn i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir.
 
== Castell-nedd Port Talbot ==
Mae’r Fwrdeistref yn amrywiol iawn ei natur. Mae gan yr ardal boblogaeth o ryw 135,281. Mae diweithdra yn 8.7%, sydd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 5.3%. Mae diweithdra ymhlith pobl ifainc dan 25 yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae tua 73% o’r cymunedau mwyaf dirwasgiedig yn y Fwrdeistref ymhlith y 50% o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 10 cymuned wedi eu cynnwys yn rhaglen ‘Cymunedau’n Gyntaf’ Llywodraeth y Cynulliad.
 
Mae proffil economaidd yr ardal wedi newid dipyn dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wrth i’r ardal ddibynnu llai ar lo, olew, petrocemegau a metel a mwy ar y sectorau gwasanaethu a thwristiaeth. Serch hynny, mae gwaithgynhyrchu’n rhan bwysig iawn o economi’r ardal gyda 29% o swyddi yn ddibynnol arno gyda chwmni dur Corus yn para i fod yn brif gyflogwr.
 
<br />
 
=== Cefndir Ieithyddol ===
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae tua 15.3% o boblogaeth y sir yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn cyfateb i 20,698 o bobl. Mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn byw ym mhen uchaf Cwmtawe a Dyffryn Aman gyda rhai cymunedau megis [[Gwauncaegurwen|Gwaun Cae Gurwen]], [[Cwmllynfell]] a Brynaman Isaf ymhlith yr ardaloedd Cymreiciaf yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, dyma’r ardaloedd a welodd y dirywiad mwyaf o safbwynt canran a niferoedd siaradwyr Cymraeg rhwng 2001-2011. Fel y nodir yn y tablau isod, mae rhai cymunedau megis [[Godre'r-graig|Godre’r Graig]] ac [[Ystalyfera]] wedi gweld dirywiad o dros 10% o fewn degawd. Gellid dadlau mai’r ardal sydd yn ymestyn o [[Trebannws|Drebanos]] i [[Cwmllynfell|Gwmllynfell]] a Rhos i Waun Cae Gurwen yw’r un bwysicaf yn y sir o safbwynt ei harwyddocâd ieithyddol gan mai yno y ceir y niferoedd a’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Yr ardal hon yw echel ieithyddol y sir a bydd Cynllun Strategol y Fenter yn rhoi sylw arbennig i gynlluniau sydd yn ceisio atgyfnerthu’r Gymraeg yn y cymunedau allweddol hyn dros y blynyddoedd nesaf. Byddai colli’r waddol hon o Gymreictod naturiol yn sicr o gael effaith seicolegol ddirfawr ar weddill y sir ac ar y twf sylweddol o blant sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg y cylch a’r oedolion hynny sydd yn dysgu’r iaith o’u gwirfodd. Dyma un o’r rhesymau pam y penderfynnodd Bwrdd yr Iaith sefydlu PartnerIAITH yn 2011 ar gyfer ardal Aman Tawe a phenodi swyddogion llawn amser i hybu’r Gymraeg yn y pentrefi nodedig hyn.<br />
 
<br />
 
====== Canrannau Siaradwyr Cymraeg Aman Tawe ======
Llinell 71:
|}
(Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001/2011)