Wicipedia:Pwll tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Mudiad cymunedol, lleol yw Menter Iaith Maldwyn – un o 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae’r Fenter yn sefydliad byrlymus, sy’n gweithio gyda phobl o bob oed ar draws Maldwyn. Ein hanfod yw rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ynghyd â chynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg.
Llinell 17:
===Pwy yden ni?===
Mudiad cymunedol, lleol yw Menter Iaith Maldwyn – un o 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae’r Fenter yn sefydliad byrlymus, sy’n gweithio gyda phobl o bob oed ar draws Maldwyn. Ein hanfod yw rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ynghyd â chynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg.
 
===Be’ allwn ni ei gynnig i…===
 
===DEULUOEDD===
– Gweithgareddau a gweithdai i hybu defnydd o’r iaith Gymraeg
– Cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol
– Cyngor i rieni ar fagu plant yn ddwyieithog
– Cyngor am addysg Gymraeg
– Cyngor a gwybodaeth i unigolion sydd yn / am ddysgu Cymraeg
 
===BLANT A PHOBL IFANC?===
Mae Menter Maldwyn yn cyd-weithio a phartneriaid i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r dosbarth trwy drefnu a rhedeg gwahanol weithgareddau, gweithdai a chlybiau ieuenctid. Rydym hefyd yn cyd-weithio gyda’r ysgolion lleol i gynnig prosiectau a phrofiadau i hybu defnydd o’r iaith o fewn a thu allan i’r ysgol.
 
===GYMUNEDAU?===
Mae Menter Iaith Maldwyn yn cyd-weithio’n agos gyda mudiadau a phwyllgorau lleol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Sir Drefaldwyn.
– Fforwm Iaith Maldwyn
– Mudiad Meithrin
– Twf
– Yr Urdd
– CFFI / YFC
– Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
– Cymdeithas Adloniant Tanat
– Cymdeithas Adloniant Llanfair Caereinion
– Cymdeithas Gymreig Caersws
– Merched y Wawr
– Coleg Powys
– Papurau Bro Maldwyn: Yr Ysgub, Plu’r Gwenydd, Seren Hafren, Blewyn Glas
Gall Menter Maldwyn gynnig y gwasanaethau canlynol:
– Cyfieithu / offer cyfieithu ar y pryd i fudiadau a grwpiau cymunedol
– System sain sy’n addas i gyfarfodydd, Gigs a chyngherddau bach
– Cyngor a chymorth i gynnig gwasanaethau dwyieithog ac ehangu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich mudiad
Mae Menter Iaith Maldwyn yn awyddus i gydweithio efo grwpiau cymunedol, clybiau ieuenctid a busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Drefaldwyn.