Virginia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 33:
Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr [[Unol Daleithiau]], ar [[Cefnfor Iwerydd|Gefnfor Iwerydd]] yw '''Virginia'''. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r [[Mynyddoedd yr Appalachian|Appalachians]] coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.
 
Cafodd Virginia ei henwi ar ôl [[Elisabeth I o Loegr]], "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan [[Cwmni Virginia]] yn [[1607]]. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd [[Goronwy Owen]], a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn [[1769]]. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y [[Chwyldro Americanaidd]], a daeth yn dalaith yn [[1788]]. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod [[Rhyfel Cartref America]] [[Richmond, (Virginia)|Richmond]] oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.