Owain Glyn Dŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.39.172.75 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan 2A00:23C6:990E:A600:51E5:1B:22B4:19A5. Tagiau: Gwrthdroi |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 51:
Ar 16 Medi, [[1400]], gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd hyn yn ddatganiad chwyldroadol ynddo'i hun. Ymledodd yr ymgyrch drwy'r gogledd-ddwyrain. Erbyn 19 Medi, ymosodwyd ar [[Rhuthun|Ruthun]], cadarnle de Grey, a bu bron iawn iddo gael ei dinistrio'n llwyr. Ymosodwyd ar [[Dinbych|Ddinbych]], [[Rhuddlan]], castell [[y Fflint]], [[Penarlâg]], a [[Holt]] yn fuan ar ôl hynny. Ar 22 Medi cafodd tref [[Croesoswallt]] ei difrodi mor ddrwg gan gyrch Owain fel y bu rhaid ei hail-siarteru yn ddiweddarach. Erbyn y 24ain, roedd Owain yn symud i'r de drwy [[Powys|Bowys]] a dinistriodd [[y Trallwng]]. Ar yr un pryd lansiodd nifer o aelodau teulu [[Tuduriaid Penmynydd]] o [[ynys Môn]], gyfres o ymosodiadau "guerilla" yn erbyn y Saeson. Roedd y Tuduriaid yn deulu blaenllaw o Fôn ac wedi mwynhau perthynas agos â [[Rhisiart II, brenin Lloegr|Rhisiart II]] (bu [[Gwilym ap Tudur ap Gronw|Gwilym]] a Rhys ap Tudur yn gapteiniaid saethwyr bwa yn ystod ymgyrchoedd Rhisiart yn Iwerddon. Newidiasant eu teyrngarwch i Owain Glyn Dŵr wrth i'r rhyfel ymledu.
Troes [[Harri IV, brenin Lloegr|Harri IV]] - oedd ar ei ffordd i geisio goresgyn [[yr Alban]]
Prif arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Owain yng ngogledd Cymru oedd [[Henry 'Hotspur' Percy|Henry Percy ("Hotspur")]], mab hynaf [[Henry Percy, Iarll 1af Northumberland]]. Cynigiodd ef bardwn i bawb o ddilynwyr Owain Glyn Dŵr, ac eithrio Owain eu hun a dau o Duduriaid Penmynydd, [[Rhys ap Tudur]] a'i frawd [[Gwilym ap Tudur]]. Am rai misoedd, ymddangosai fod y gwrthryfel yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, ar ddydd Gwener y Groglith [[1401]], cipiodd Rhys a Gwilym ap Tudur [[Castell Conwy|gastell Conwy]]. Tua mis Mehefin yr un flwyddyn ymladdwyd [[brwydr Hyddgen]] yn uchel ar lethrau Pumlumon, ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion. Trechodd byddin fach Owain Glyn Dŵr lu mawr o Saeson a Fflemingiaid oedd yn ceisio cyrraedd castell [[Aberystwyth]]. Arweiniodd Harri IV gyrch i dde Cymru, a dienyddiwyd un o gefnogwyr Owain, [[Llywelyn ap Gruffudd Fychan]] o Gaeo yn [[Llanymddyfri]] ar [[9 Hydref]]. Ddiwedd Tachwedd, gyrrodd Owain lythyrau at [[Robert III, brenin yr Alban]] ac at benaethiaid [[Iwerddon]] yn gofyn am gymorth.<ref>Lloyd ''Owen Glendower'' t. 46</ref> Daeth y flwyddyn i ben gyda [[Brwydr Twthil]] ar 2 Tachwedd 1401, rhwng llu Owain Glyn Dŵr ac amddiffynwyr Caernarfon.
Llinell 63:
[[Delwedd:Owain Glyndwr.jpg|bawd|220px|Owain Glyn Dŵr]]
Ar 12 Ionawr 1405 arwyddwyd cytundeb ffurfiol gyda brenin Ffrainc, i gynghreirio yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. O fewn wythnosau, glaniodd byddin enfawr o Ffrancwyr yn Aberdaugleddau
Ar [[28 Chwefror]] [[1405]], arwyddwyd y [[Cytundeb Tridarn]] rhwng Owain a'i gynghreiriad [[Henry Percy, Iarll 1af Northumberland]] (tad Hotspur) ac [[Edmund Mortimer]]. Roedd y cytundeb yma'n rhannu [[Ynys Brydain]] (heb gynnwys yr [[Alban]]) rhyngddynt fel penaethiaid sofran, annibynnol. Yn ôl y ddogfen, roedd Owain Glyn Dŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, i gael:
|