Edward I, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
 
Roedd Edward yn gyfrifol am [[Goresgyniad Edward I|oresgyn Cymru]] ar ddau achlysur, yn ystod Rhyfel Cyntaf Annibynniaeth yn 1276-7 ac eto yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth yn 1282-3. Yn ystod yr ail oresgyniad, cafodd [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], ei ladd ger [[Cilmeri]]. Cipiwyd ei frawd, [[Dafydd ap Gruffudd]], y flwyddyn wedyn, yn dod â'r ail ryfel i ben. O hyn ymlaen roedd Edward yn gallu rheoli dros Gymru. Roedd rhaid, fodd bynnag, ddinistrio gwrthwynebiad nifer o uchelwyr, gan gynnwys Rhys ap Maredudd, a wnaeth ddechrau gwrthryfel yn y de yn 1287, a [[Madog ap Llywelyn]], a wnaeth hawlio'r teitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-5.
 
<br />
 
=== Cestyll Edward I a’r Bwrdeisdrefi ===
Er mwyn dal gafael ar y tiroedd roeddent wedi’u meddiannu, aeth y Saeson ati i godi neu ailgodi cestyll ledled Cymru. Roedd cestyll Edward yn adeiladau mawr urddasol ac roedd iddynt ddwy brif swyddogaeth. Swyddogaeth filwrol oedd y gyntaf. Byddent yn lletya milwyr yn barod i ymladd os oedd y Cymry’n gwrthryfela. Yr ail swyddogaeth oedd dychryn y Cymry er mwyn iddynt ildio.
 
 
Trefi newydd a adeiladwyd o gwmpas cestyll oedd bwrdeistrefi. Mewnfudwyr Seisnig oedd yn byw yn y bwrdeistrefi ac roeddent yn cael breintiau arbennig. Yn swyddogol, doedd y Cymry ddim yn cael byw yn y rhan fwyaf o’r bwrdeistrefi. Roedd y Cymry’n dal dig at y bwrdeistrefi a daethant yn symbol o oresgyniad y Saeson. Roedd Saeson yn ymsefydlu mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yn Ninbych, gorfodwyd [[Ffermwr|ffermwyr]] o Gymry i adael eu cartrefi a mynd i fyw yn rhywle arall. Yna, rhoddwyd eu tir i Saeson o [[Swydd Gaerhirfryn]] a [[Swydd Efrog]].
 
==Teulu==