O.E. Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Teipio
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Gwybodlen wd
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/WicidataPerson | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Owen Elias Roberts''', neu'n fwy cyffredin mewn print, '''O.E. Roberts''', yn awdur gwyddonol ac yn ymgyrchydd dros hawliau'r Gymraeg a thros senedd i Gymru. Bu farw ar 14 Hydref 2000 yn 92 oed<ref name="casglwr.org">http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2078/78%2015.pdf</ref>
 
==Bywyd==
Ganed O.E. Roberts yn [[Llanystumdwy]], [[Eifionydd]] ond wedi addysg elfennol symudodd i weithio fel technegydd labordy meddygol yn [[Lerpwl]]. Daeth, maes o law yn Brif Dechnegydd Labordy Ysbyty Broadgreen.<ref name="news.bbc.co.uk">http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_974000/974755.stm</ref>
Yn ei lencyndod teithiau ar hyd gogledd Cymru a cyhoeddwyd erthyglau ganddo am ei brofiadau yng nghylchgrawn ''[[Y Ford Gron (cylchgrawn)|Y Ford Gron]]'' yn yr 1930au.<ref name="cylchgronau.llyfrgell.cymru">https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1371517/1371518/0#?xywh=-1552%2C-211%2C6226%2C4324</ref> Wedi ymddeol dychwelodd i [[Cricieth|Gricieth]] i fyw ac yna i [[Caerdydd|Gaerdydd]] i fod yn agosach at ei merch, Gwenan, sy'n briod â'r darlledwr, [[Wyndham Richards]]. Roedd yn briod â Margaret Florence (Fflorens) Roberts a gyhoeddodd lyfr ''Merch y Gelli'' gan [[Gwasg Pantycelyn|Wasg Pantycelyn]]. Roedd ganddo ddau o wyrion.<ref>https://www.theguardian.com/news/2000/oct/26/guardianobituaries2</ref>
 
===Anrhydeddu===
Yn 1972 derbyniodd radd MA er anrhydedd gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]] am ei waith arloesol i wyddoniaeth yn y Gymraeg.> Derbyniodd y radd gan Syr [[John Meurig Thomas]] a'i ddisgyrfiodd fel "y gŵr diymhongar [hwn] ei ddychymyg yn gyfoethog ei ryddiaeth yn farddonol a Beiblaidd".<ref>http://www. name="casglwr.org"/pdf/Rhifyn%2078/78%2015.pdf</ref>
 
Bu hefyd yn Lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.<ref>http:// name="news.bbc.co.uk"/hi/english/newyddion/newsid_974000/974755.stm</ref>
 
==Eisteddfod Genedlaethol==
Enillodd y [[Y Fedal Ryddiaith|Fedal Ryddiaith]] ddwywaith yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]].
 
Enillodd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952|Eisteddfod Aberystwyth, 1952]] gyda ''Cyfrol o Ryddiaith: Cyfrinachau Natur''<ref name="eisteddfod.cymru">https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-y-fedal-ryddiaith</ref>
 
Enillodd y [[Y Fedal Ryddiaith|Fedal Ryddiaith]] eto dwy flynedd wedyn yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954|Eisteddfod Ystradgynlais, 1954]] am ei ysgrif ''Y Gŵr o Ystradgynlais'' (casgliad o ysgrifau).<ref>https:// name="eisteddfod.cymru"/amdanom-ni/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-y-fedal-ryddiaith</ref><ref>https://www.semanticscholar.org/paper/Y-g%C5%B5r-o-Ystradgynlais%2C-ac-erthyglau-eraill.-enwog.-Evans/d8bc3d7b4ac3615175ba005e8d74c78cfb0a902f</ref>
 
Enillodd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghystadleuaeth y Llawlyfrau, gan ennill yn 1948 gyda ''Llawlyfr ar Fwydydd'' ac yn 1951 gyda ''Llawlfyr ar Wyddor Gwlad''.
 
==Ysgrifennu==
Yn ogystal ag ysgrifennu'r i'r ''Ford Gron'' (a ddaeth i ben fel cylchgrawrn yn 1935) bu O.E. yn cyfrannu colofn wyddonol i'r [[Y Cymro|Cymro]]. Cyhoeddodd ei lyfr gyntaf, ''Hela'r Meicrob'' yn 1945. Bu hefyd yn cyfrannu, bob yn ail gyda Dr [[Eirwen Gwynn]], i'r [[Y Gwyddonydd|Gwyddonydd]].<ref>http://www. name="casglwr.org"/pdf/Rhifyn%2078/78%2015.pdf</ref> gan gynnwys erthyglau megis ''Bwytawr Bacteria'' yn Cyfrol ii, rhif 2, Mehefin 1964. <ref>https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1394134/1394945/4#?xywh=-1663%2C-219%2C6187%2C4297</ref>
 
==Teledu==
Llinell 33:
* ''Dirgelwch yr Atom'' O.E. Roberts, 1947
* ''Llawlyfr ar Wyddor Gwlad'' O.E. Roberts, 1951
* ''[https://www.amazon.co.uk/Gwr-Ystradgynlais-Roberts/dp/0901410586 Y Gŵr o Ystradgynlais'' (casgliad o ysgrifau)] O.E. Roberts, 1960, [[Cymdeithas Lyfrau Ceredigion]], ISBN-10: 0901410586
* ''[https://www.bookdepository.com/Gwyddonwyr-o-Gymru-O-E-Roberts/9780708301388?ref=grid-view&qid=1567070882963&sr=1-1 ''Gwyddonwyr o Gymru''], O.E. Roberts, [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1952, ISBN10: 070830138X
* ''Dr John Dee 1527-1608'', O.E. Roberts, [[Gwasg Gwynedd]], 1980.
Llinell 47:
 
==Darllen Pellach==
Gellir darllen hen rifynnau o ''Y Gwyddonydd'', sy'n cynnwys erthyglau gan O.E. Roberts ar-lein ar dudlennau [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/home Cylchgronau Cymru] ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.
 
Gellir hefyd ddarllen Y Ford Gron ar dudalennau Cylchgronau Cymru.<ref>https:// name="cylchgronau.llyfrgell.cymru"/view/1371517/1371518/0#?xywh=-1552%2C-211%2C6226%2C4324</ref>
 
==Cyfeiriadau==