Rosalía de Castro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1:
{{Person
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''Rosalía de Castro''' ([[24 Chwefror]] [[1837]] – [[15 Gorffennaf]] [[1885]]) yn brif lenor [[Galisia]] ac heddiw yn arwres ffeministaidd.
 
Ysgrifennodd yn Galego ([[Galisieg]]) ar adeg pan roedd yr iaith wedi'i gormesu ac ond wedi'i ystyri'n dafodiaith y werin ddi-addysg.<ref>https://www.cambridge.org/core/books/a-companion-to-galician-culture/rosalia-de-castro-life-text-and-afterlife/EC9EDA54263D6E0BC359900B8AD86E61</ref><ref>http://dangerouswomenproject.org/2016/06/08/rosalia-de-castro/</ref>
Llinell 11:
Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ''Cantares gallegos'' (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel ''Día das Letras Galegas'' - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn [[Galisia]].
 
Roedd ''[[Follas novas]]'' (Dail newydd), 1880, ei hail gasgliad yn y Galisieg a'r olaf. <ref name="TOTAL">[http://www.ellibrototal.com/ltotal/ficha.jsp?idLibro=5361 Follas Novas] ''El Libro Total''</ref> Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd. Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng ''Cantares gallegos'' a'i nofel radical ''En las orillas del Sar'' (1884) a sgwennwyd mewn [[Sbaeneg]]. Mae rhan olaf ''Follas novas'' am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.
 
Priododd Manuel Murguía (1833–1923), yn un o brif ffigyrau y ''Rexurdimento'' (adfywiad) – mudiad llenyddol rhamantaidd i hybu llenyddiaeth a'r iaith Galego. Cafodd y cwpl 7 o blant.
 
Roedd bywyd Castro wedi'i effeithio gan dristwch a thlodi. Gwrthwynebodd gamddefnydd awdurdod ac roedd yn gefnogwr brwd o hawliau merched.<ref>https://www.britannica.com/biography/Rosalia-de-Castro</ref>
 
Mae ei gwaith yn cyfleu cryfder enaid pobl werin Galisia – eu llawenydd, doethineb a thraddodiadau, eu dicter at ormes Sbaen, a'u tristwch yn wyneb tlodi ac alltudio i dde America. Mae ei gwaith wedi nodi gan ''saudade'' ([[hiraeth]]).<ref>https://www.poemhunter.com/rosalia-de-castro/biography/</ref>
 
Mae ei gwaith wedi'i gyffeithiau i nifer fawr o ieithoedd ac mae ei henw i weld ar enwau parciau, strydoedd, ysgolion a busnesau fel caffis a gwestai<ref>https://www.booking.com/hotel/es/rosalia.html</ref><ref>https://www.youtube.com/watch?v=JRMATl6KeQw</ref>. Mae ei llun wedi ymddangos ar stampiau ac ar hen arian Sbaen y peseta. <ref>https://web.archive.org/web/20120412180143/http://www.bde.es/webbde/es/billemone/peseta/peseta.pdf</ref>
 
==Dolenni==