Wolmar Schildt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
→top: Gwybodlen wd |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Wolmar_Schildt.jpg|bawd|
[[Meddyg]] ac [[Ysgrifennwr|awdur]] (dan y ffugenw Volmari Kilpinen) o'r Ffindir oedd '''Wolmar Styrbjörn Schildt''' ([[31 Gorffennaf]] [[1810]] yn [[Laukas]] – 8 Mai [[1893]] yn [[Jyväskylä]]).
Cymhwysodd Schildt fel meddyg ym 1840 a bu'n feddyg cefn gwlad yn [[Saarijärvi]] ac yna yn ardal Jyväskylä rhwng 1839 a 1888. Roedd yn adnabyddus yn bennaf am ei ymdrechion i wneud y [[Ffinneg]] yn iaith ddiwylliannol ac i greu dosbarth Ffinneg diwylliedig. Ymhlith y mentrau a gychwynnodd, sefydlodd yr ysgol ramadeg Ffinneg gyntaf ym 1858 yn ninas Jyväskylä. Roedd hefyd yn hoff o greu termau newydd yn yr iaith Ffinneg. Bathodd tua 500 o eiriau diwylliannol Ffinneg ac mae rhyw 100 yn cael eu defnyddio yn yr iaith nawr, er enghraifft, ''tiede'' "gwyddoniaeth, celfyddyd", ''taide'' "celf", ''kirje'' "llythyr", ''yksilö'' "unigolyn", ''esine'' "gwrthrych", ''henkilö'' "person, ffigwr", ''kirjailija'' "awdur", ''oppilas'' "disgybl", ''yleisö'' "cynulleidfa, cyhoedd", ''sairaala'' "ysbyty", ''vankila'' "carchar". Cyfieithodd ''Elfennau'' [[Euclid]] i'r Ffinneg (1847) hefyd.
==Cyfeiriadau==
|