Llinell rif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#Wici365
 
→‎top: Gwybodlen wd
 
Llinell 1:
Mewn [[mathemateg]] sylfaenol, mae '''llinell rif''' yn ddarlun o linell [[geometrig]], syth, graddedig sy'n cynrychioli [[rhifau real]], ac a ddynodir gan <math>\mathbb{R}</math>. Tybir bod pob [[pwynt (geometreg)|pwynt]] are y linell yn cyfateb i rif real, a phob rhif real yn cyfateb i bwynt.<ref>{{cite book | last1=Stewart | first1=James B. | last2 = Redlin | first2 = Lothar | last3=Watson | first3=Saleem | authorlink=James Stewart (mathematician) | title=College Algebra | publisher=[[Brooks Cole]] | year=2008 | edition = 5th | pages=13&ndash;19 | isbn=0-495-56521-0}}</ref>
 
Mae'r [[cyfanrif]]au yn aml yn cael eu dangos fel pwyntiau wedi'u marcio'n arbennig a'u gosod yn drefnus gyda'r gofod rhyngddynt yn gyfartal.
Er nad yw'r ddelwedd hon ond yn dangos yr holl gyfanswm o -9 i 9, mae'r llinell mewn gwirionedd yn cynnwys yr holl rifau real, gan barhau am byth ym mhob cyfeiriad. Mae hefyd yn cynnwys y rhifau sydd heb eu marcio rhwng y cyfanrifau e.e. 1.5 neu 1.57. Fe'i defnyddir yn aml fel cymorth wrth addysgu adio a thynnu syml, yn enwedig fel canllaw er mwyn egluro [[rhifau negyddol]]. Canllaw tebyg yw'r [[thermomedr]].
 
[[FileDelwedd:Number-line.svg|center]]
 
Mewn mathemateg pellach, mae'r termau ''llinell rif real'', neu ''linell real'' yn cael eu defnyddio fel arfer i nodi'r cysyniad uchod fod pob pwynt ar linell syth yn cyfateb i un rhif real, a'r gwrthwyneb.