Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Griffith Jones (Glan Menai)"

Lleihawyd o 63 beit ,  2 flynedd yn ôl
Gwybodlen wd
(Gwybodlen wd)
{{Gwybodlen person/WicidataPerson|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''Griffith Jones (Glan Menai)''' ([[Mawrth]], [[1836]] - [[21 Hydref]], [[1906]]) yn ysgolfeistr ac yn awdur Cymreig.<ref>{{Cite web|title=JONES, GRIFFITH (Glan Menai; 1836 - 1906), ysgolfeistr ac awdur {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c3-JONE-GRI-1836|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2019-08-16}}</ref>
 
== Cefndir ==
Ganwyd Jones yn [[Llanfairfechan]] yn blentyn i Griffith Jones, [[bugail]] a thywysydd ymwelwyr trwy'r mynyddoedd a Mary ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair, Llanfairfechan a chafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol (ysgol [[Eglwys Loegr]]) Llanfairfechan. Wedi ymadael a'r ysgol aeth yn fyfyriwr i [[Coleg Prifysgol y Drindod|Goleg y Drindod]] Caerfyrddin lle gymhwysodd fel athro. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3836376|title=Glan Menai - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria|date=1909-03-18|accessdate=2019-08-15|publisher=W. H. Evans}}</ref>
 
== Gyrfa ==
Cafodd ei benodi yn athro yn Ysgol Genedlaethol [[Llanddeusant, Ynys Môn|Llanddeusant]], Môn, symudodd oddi yno ar ôl gyfnod byr i fod yn athro yn Ysgol Genedlaethol [[Llanfrothen]]. O Lanfrothen symudodd i Ysgol Genedlaethol [[Aberaeron]]. Yn Aberaeron bu hefyd yn cadw ysgol breifat i ddysgu sgiliau morwrol, aeth nifer o'i ddisgyblion preifat ymlaen i fod yn gapteiniaid llongau. Bu'n dysgu yn Aberaeron am ddeng mlynedd cyn symud i Ysgol Genedlaethol [[Llandybïe|Llandybie]] lle arhosodd am 3 blynedd cyn dychwelyd i Aberaeron. Ni fu yn Aberaeron am yr eildro am lawer gan i'w iechyd torri a'i orfodi i roi'r gorau i fod yn athro ar ôl gyrfa o 20 mlynedd.
 
Symudodd i [[Caernarfon|Gaernarfon]] i fyw. Yno dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar gyfer y papurau lleol a phapurau Cymreig Lerpwl fel y caniatâi ei iechyd. Wedi cael peth adferiad aeth ar gais y Deon Edwards ar daith trwy Gymru i chwilio am ohebwyr a thanysgrifwyr i gylchgrawn enwadol Eglwys Lloegr, [[Y Llan]]. Wedi llwyddo yn y gwaith cafodd gais gan berchennog y ''[[Carmarthen Journal|]]''Carmarthen Journal'']] i wneud gwaith tebyg. Gwariodd gweddill ei oes yn hybu papurau ac yn gwerthu llyfrau. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3763916|title=GLAN MENAI - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser|date=1909-03-12|accessdate=2019-08-15|publisher=J. Daniel}}</ref>
 
== Gyrfa lenyddol ==
Dechreuodd Glan Menai cystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn weddol ifanc. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf ym [[1859]] pan ddaeth yn fuddugol am y cyfieithiad gorau o "''[[God Save the Queen|]]''God Save the Queen'']]" i'r Gymraeg. Rhan o'r wobr oedd cael gwahoddiad i [[Castell Penrhyn|Gastell Penrhyn]] i glywed ei gyfieithiad yn cael ei chanu o flaen y [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines Fictoria]], tra bod hi'n ymweld â Chymru. Ym 1861 cyhoeddwyd nofel, ''Hywel Wyn'', ganddo. Ym 1865 enillodd wobr am y traethawd gorau am "''Enwogion Sir Aberteifi''" a gyhoeddwyd fel llyfr gan gwmni Hughes, [[Dolgellau]] ym 1868. <ref>[http://www.archive.org/stream/enwogionsiraber00jonegoog#page/n3/mode/2up Internet Archive ''Enwogion Sir Aberteifi'', Copi wedi ei ddigido gellir ei ddarllen am ddim]</ref>. Yn Eisteddfod [[Porthaethwy]] 1879 bu'n fuddugol am draethawd ar "''Fywyd ac Athrylith [[Lewis Morris]] (Llywelyn Ddu o Fôn)''" Ym 1886 cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi "''Caneuon Glan Menai''". Cyhoeddwyd nifer fawr o draethodau a chyfieithiadau eraill ganddo hefyd. Ym 1901 cyhoeddodd llyfr Saesneg am fro ei enedigaeth "''A Commplete Guide to Llanfairfechan and Aber''". <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3848107|title=GLAN MENAI - Baner ac Amserau Cymru|date=1909-05-12|accessdate=2019-08-15|publisher=Thomas Gee}}</ref>
 
Ym 1904 cafodd blwydd-dal o £30 y flwyddyn gan y llywodraeth fel cydnabyddiaeth i'w cyfraniad at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3606665|title=ANNUITYFORGLANMENAI - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent|date=1904-08-26|accessdate=2019-08-16|publisher=James Rees}}</ref>
 
== Teulu ==
 
== Marwolaeth ==
Wrth ymweld â [[Conwy (tref)|Chonwy]] fel rhan o'i waith fel llyfrwerthwr cafodd Glan Menai ffit apoplectig ([[strôc]], mae'n debyg) aed a fo adref i Lanfairfechan ar y trên ond bu farw o fewn hanner awr o gyrraedd cartref. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwyf Llanfairfechan. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4168689|title=jOBITUARY - Evening Express|date=1906-10-29|accessdate=2019-08-15|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Jones, Griffith}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Jones, Griffith}}
[[Categori:Genedigaethau 1836]]
[[Categori:Marwolaethau 1906]]