Edmund Hyde Hall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
→‎Bywyd: Gwybodlen wd
Llinell 8:
Ymddengys iddo ddychwelyd yn 1809 ac ymsefydlu dros dro yn ninas Bangor. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn teithio o gwmpas Sir Gaernarfon yn hel deunydd at ei lyfr. Mae tri o'r llythyrau a ysgrifennodd o Fangor yn dangos ei fod yn adnabod yr hynafiaethydd lleol [[Paul Panton]] o Fôn.
 
Ymhen dwy flynedd, roedd y gwaith yn nesáu at gael ei gwblhau. Cafodd danysgrifiadau i'r llyfr arfaethedig, gan nifer yn cynnwys Paul Panton, [[William Alexander Madocks|William Madocks]] (sefydlydd [[Tremadog]]) a'r geiriadurwr [[William Owen Pughe]], ond methiant fu'r brosiect. Roedd Hyde Hall, mae’n ymddangos, wedi colli rhywfaint o bres y tanysgrifwyr pan dorrodd nifer o fanciau’r wlad - ac roedd tanysgrifwyr eraill yn hwyrfrydig iawn i dalu cyn derbyn y llyfr. Roedd nifer o’r rheiny yn Iwerddon a dichon felly fod gan Edmund ryw gysylltiad nad yw’n hysbys ag Iwerddon.
 
Yn sicr, y tro nesaf y clywn ni amdano, mae o’n byw yn Nulyn. Ym mis Ebrill 1815, cafodd o a rhyw Barch Edward Groves swydd gan Gomisiwn Cofnodion Iwerddon i baratoi [[Acta Regia Hibernica]], neu gofnodion swyddogol Iwerddon, ar gyfer y wasg. Yr un flwyddyn, cafodd ei enwi’n ysgrifennydd mudiad i sefydlu cymdeithas archeolegol ar gyfer Iwerddon, ond dair blynedd yn ddiweddarach, doedd dim byd wedi digwydd ac yn ôl un o gefnogwr y syniad: “mae’r sefydliad hwnnw, hyd yma heb esgor ar unrhyw ganlyniadau. Dyw boneddigion Iwerddon ddim yn gweld fod gwybodaeth o’u gwlad eu hunain yn gymhwyster” - dichon, meddai fo wedyn fod Edmund wedi ei ddewis oherwydd ei brofiad o ymchwilio yn Sir Gaernarfon. Sonnir am y llyfr hwnnw, gan ychwanegu “nid yw ond yn disgwyl am y cyfle priodol i’w roi gerbron y cyhoedd, ac er mor uchel fydd eu disgwyliadau o ŵr bonheddig mor nodedig am wybodaeth fanwl, gysáct ac amrywiol, ni chaiff pobl mo’u siomi.”