Agnes Miegel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cyhoeddiadau
Gwybodlen wd
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/WicidataPerson | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Yr Almaen}} | dateformat = dmy}}
 
[[Awdur]]es a [[bardd]] [[Yr Almaen|Almaenig]] oedd '''Agnes Miegel''' ([[9 Mawrth]] [[1879]] - [[26 Hydref]] [[1964]]) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel awdur [[stori fer|storiau byrion]] am [[Prwsia|Ddwyrain Prwsia]] a [[newyddiadurwr]] a gefnogai'r [[Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol]], sef y blaid a ddaeth dan arweiniaeth Adolf Hitler i gynrychioli [[Natsïaeth]] ar ei ffurf waethaf.
 
Fe'i ganed yn [[Königsberg]] ([[Kaliningrad]], [[Rwsia]] erbyn heddiw) ar [[9 Mawrth]] [[1879]] a bu farw yn Bad Salzuflen.{{Cyfs personol}}
 
==Magwraeth==
Masnachwyr oedd gwaith ei theulu, a phrotestaniaid o ran [[crefydd]]. Ei rhieni oedd Gustav Adolf Miegel a Helene Hofer.
 
Aeth Miegel i Ysgol Uwchradd y Merched yn Königsberg ac yna bu'n byw rhwng 1894 ac 1896 mewn tŷ-gwestai yn Weimar, lle ysgrifennodd ei cherddi cyntaf. Yn 1898 treuliodd dri mis ym Mharis ac yn 1900 hyfforddodd fel [[nyrs]] mewn ysbyty plant yn [[Berlin]]. Rhwng 1902 a 1904 gweithiodd fel athrawes gynorthwyol mewn ysgol breswyl i ferched ym [[Bryste|Mryste]], Lloegr. Yn 1904 mynychodd goleg hyfforddi athrawon yn Berlin, ond ni orffennodd y cwrs oherwydd salwch. Ni chwblhaodd gwrs mewn coleg amaethyddol i ferched ger Munich ychwaith ac yn 1906 bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Königsberg i ofalu am ei rhieni sâl, yn enwedig ei thad, a oedd wedi colli ei olwg. Bu farw ei mam yn 1913, ei thad yn 1917.{{Cyfs coleg a gwaith}}