Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Alfonso Reyes"

Lleihawyd o 17 beit ,  blwyddyn yn ôl
→‎top: Gwybodlen wd
(→‎Gyrfa ddiplomyddol (1913–39): Newid enw'r wybodlen using AWB)
(→‎top: Gwybodlen wd)
 
{{infobox person/WikidataPerson | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Bardd]], [[ysgrifwr]], awdur [[straeon byrion]], a [[beirniad llenyddol]] [[llenyddiaeth Sbaeneg|Sbaeneg]] o [[Mecsico|Fecsico]] oedd '''Alfonso Reyes Ochoa''' ([[17 Mai]] [[1889]] – [[27 Rhagfyr]] [[1959]]) a fu hefyd yn [[diplomydd|ddiplomydd]] ac [[addysgwr]]. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn [[llên America Ladin]] yn gyffredinol. Meddai [[Jorge Luis Borges]] amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif ''hombre de letras'' yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif ''hombre de letras'', hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i [[Montaigne]], i [[Goethe]], i [[Robert Louis Stevenson|Stevenson]], ac i [[Homeros]], ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd".<ref>Jorge Luis Borges, "El primer hombre de letras de nuestra América" yn ''Borges ante el espejo'', golygwyd gan Jorge Mejía Prieto a Justo R. Molachino (Dinas Mecsico: Editorial Lectorum, 1995), tt. 35–36.</ref>