Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
nodyn
Llinell 1:
Pentref bychan ar arfordir ogleddol Pen [[Llŷn]] gyda'r mwyafrif o'r boblogaeth yn [[Gymraeg]]-gyntaf eu hiaith yw '''Tudweiliog'''. Mae [[amaethyddiaeth]] yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda [[Twristiaeth|thwristiaeth]] yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, [[eglwys]] a [[Capel|chapel]] ac [[ysgol]] gynradd (presennol) sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn [[2007]]. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a [[Phwllheli]], sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn [[Sir Gwynedd]], ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur ([[cromlech]]) ar fynydd [[Cefnamwlch]], olion cymuned o [[Oes yr Efydd]] ar gopa fynydd [[Carn Fadryn]], traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol [[Porth Ysgaden]], [[Porth Colmon]] yn [[Llangwnadl]], a [[Porth Gwylan|Phorth Gwylan]] sydd dan ofalaeth yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
{{Trefi Gwynedd}}
 
[[Categori:Pentrefi Gwynedd]]