Cwrs prifysgol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ca, de, eo, he, hu, id, lt, ms, nl, no, simple, sv
B dolen
Llinell 1:
System o [[addysg]]u ar gyfer [[myfyrwyr]] [[prifysgol]] [[israddedig]] yw '''cwrs prifysgol'''. Mae'n debyg i [[cwricwlwm|gwricwlwm]] [[ysgol]] ond gan ei fod yn rhaglen [[addysg uwch]] disgwylir i fyfyrwyr bod yn llawer mwy annibynnol yn eu hastudiaethau.
 
Mae'r [[adran prifysgol]] yn llunio fframwaith o arweiniad [[addysgeg|pedagogaidd]] i'r pwnc gan [[athro|athrawon]], [[darlithydd|darlithwyr]], neu [[tiwtor|diwtoriaid]], sydd yn cynnwys dulliau addysgu megis [[darlith]]oedd, [[seminar]]au, a [[tiwtorial|thiwtorialau]], ac adnoddau dysgu megis [[rhestr darllen|rhestrau darllen]]. Disgwylir gwaith astudio annibynnol gan fyfyrwyr, gan amlaf [[darllen]], [[ymchwil]], [[gwneud nodiadau]], ac [[adolygu]]. Gall myfyrwyr hefyd gweithio gyda'i gilydd mewn [[gwaith grŵp]]. Asesir myfyrwyr trwy [[arholiad]]au, [[traethawd|traethodau]], gwaith seminar, [[traethawd hir]], neu dasgau eraill, ac mae rhywfaint o farciau'r asesiadau hyn yn cyfrannu at [[gradd (addysg)|radd]] derfynol eu [[gradd academaidd]].
 
Yn aml fe rhennir cyrsiau prifysgol yn fodiwlau, sydd yn canolbwyntio ar agweddau ac is-bynciau penodol o bwnc y cwrs. Er enghraifft, gall fodiwlau cwrs [[y gyfraith]] gynnwys [[athroniaeth gyfreithiol]], [[cyfraith droseddol]], [[cyfraith contract]], [[cyfraith camwedd]], a [[cyfraith deuluol|chyfraith deuluol]].