Madog ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bu'n wrthwynebus i bolisïau [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ac arweiniodd y [[Cymry]], oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau [[Statud Rhuddlan]] ([[1284]]), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr [[Edward I o Loegr]]. Uchafbwynt y gwrthryfel oedd yr ymosodiad ar [[Caernarfon|dref Caernarfon]] a'i [[Castell Caernarfon|chastell]] yn 1294. Bu Madog a'i ddilynwyr yn weithgar yn y [[Canolbarth Cymru|Canolbarth]], ym [[Môn]] ac yn [[y Berfeddwlad]] hefyd, yn arbennig yn [[arglwyddiaeth]] [[Dinbych]].
 
Mewn ymateb daeth Edward I i [[Gogledd Cymru|ogledd Cymru]], gan gyrraedd [[Castell Conwy]] ar [[Gŵyl San Steffan|Ŵyl San Steffan]] 1294, ond i gael ei hun dan warchod yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y [[gwrthryfel]] am gyfnod. Yna, pan oedd ef a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i [[Powys|Bowys]] yn 1295, cafodd ei drechu gan [[Iarll Warwig]] ym mrwydr [[Maes Meidiog]].
 
Ildiodd Madog ar ddiwedd [[1295]]. Ni wyddys beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Cymerodd y Saeson 74 o wystlon o [[Sir Gaernarfon]] a [[Meirionnydd]] i sicrhau heddwch ar ôl i'r gwrthryfel ddarfod ond nid yw enw Madog yn eu plith.