Ymyrraeth filwrol yn Libia, 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.1) (robot yn ychwanegu: da yn newid: eu, fr, it, ru, sv, vi
ehangu - aelodau NATO ac ymateb yn y Dwyrain Canol
Llinell 1:
{{cyfoes}}
Ar 19 Mawrth 2011 dechreuodd ymyrraeth filwrol yn [[Libya]] gan glymblaid aml-wladol i weithredu [[Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]], fel ymateb i'r [[gwrthryfel Libya, 2011|gwrthryfel yn Libya]]. Mae'r ymyrraeth yn cynnwys [[gwaharddiad hedfan]], [[môr-warchae]], a [[bomio tactegol|chyrchoedd awyr]]. Ar 24 Mawrth daeth y gwaharddiad hedfan dan reolaeth [[NATO]].
 
Mae'r glymblaid yn cynnwys aelod-wladwriaethau NATO, [[Sweden]], [[Qatar]], a'r [[Emiradau Arabaidd Unedig]].
 
==NATO==
O aelod-wladwriaethau NATO, [[Ffrainc]], [[y Deyrnas Unedig]], [[yr Unol Daleithiau]], [[Canada]], [[Gwlad Belg]], [[Norwy]], a [[Denmarc]] sydd yn cynnal [[cyrch awyr|cyrchoedd awyr]]. O'r rhain, dim ond [[Ffrainc]] a'r [[Deyrnas Unedig]] sydd yn agored i ddwysáu ymgyrchoedd milwrol. Mae [[Sbaen]], [[yr Eidal]], a'r [[Iseldiroedd]] yn cynnal ymgyrchoedd [[rhagchwilio]] yn unig. Mae [[Albania]] yn darparu ei phorthladdau a meysydd awyr ar gyfer NATO, mae llynges [[Bwlgaria]] wedi darparu [[ffrigad]], mae [[Gwlad Groeg]] yn darparu awyrennau, llong, a chanolfannau milwrol, mae [[Rwmania]] wedi darparu un llong, ac mae llynges [[Twrci]] yn darparu llongau a [[llong danfor]]. Mae gweddill aelodau NATO yn cefnogi'r ymgyrch i amddiffyn sifiliaid fel yr awdurdodir gan Benderfyniad 1973. Er hynny mae llywodraeth [[yr Almaen]] yn gwrthod gweithredoedd ymosodol gan luoedd y cynghrair.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.bbc.co.uk/news/world-africa-13092451 |teitl=Libya: Where do Nato countries stand? |dyddiad=21 Ebrill 2011 |cyhoeddwr=[[BBC]] }}</ref>
 
==Ymateb==
Yn [[y Dwyrain Canol]] dim ond [[Syria]] a wrthwynebodd yr ymyrraeth yn gyfangwbl. Mae dwy o [[gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia|wladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia]], Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig, yn cyfrannu at yr ymyrraeth filwrol. Arhosodd lluoedd milwrol [[yr Aifft]], cymydog dwyreiniol Libya a welodd [[chwyldro'r Aifft, 2011|chwyldro]] yn Ionawr a Chwefror 2011, yn swyddogol niwtral ar y gwrthryfel cyn i Benderfyniad 1973 gael ei basio, ond roedd barn gyhoeddus o fewn y wlad yn gefnogol iawn dros ymyrraeth gan wledydd [[y Gorllewin]]. Er bod llywodraeth [[Iran]] yn cefnogi'r gwrthryfelwyr yn erbyn [[Muammar al-Gaddafi]], disgrifiodd Ramin Mehmanparast, llefarydd dros adran dramor Iran, y cyrchoedd awyr fel "[[gwladychiaeth]] mewn ffurff newydd".<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.guardian.co.uk/world/2011/mar/21/libyan-air-strikes-middle-east-reaction |teitl=Libyan air strikes: reactions around the Middle East |dyddiad=21 Mawrth 2011 |gwaith=[[The Guardian]] }}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:2011]]