Dafydd ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
categori |
ychwanegiadau |
||
Llinell 1:
Roedd '''Dafydd ap Gruffudd''' (''c''. [[1235]] – [[3 Hydref]], [[1283]]) yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]] o Ragfyr [[1282]] hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd [[Llywelyn ap Gruffudd]]. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl ''Ein Llyw Olaf''.
Yr oedd Dafydd yn fab i [[Gruffudd ap Llywelyn]] a'i wraig
==1255-81==
Yn [[1255]] ymunodd a'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym [[Brwydr Bryn Derwin|Mrwydr Bryn Derwin]]. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn [[1263]] ymunodd a Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei
==Rhyfel 1282-83==
Yr oedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau [[1282]] ymosododd Dafydd ar [[Penarlâg|Penarlâg]], gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Yr oedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw [[Castell Dolwyddelan]] am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar [[18 Ionawr]] 1283, enciliodd Dafydd i [[Castell y Bere|Gastell y Bere]], lle bu byddin o dros 3,000 o
==Ei ddiwedd==
Ar [[28
==Tynged yr etifeddion==
Gyrrwyd ei ferch [[Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd|Gwladys]], i [[lleiandy|leiandy]] yn Sixhills, lle bu farw yn [[1336]], tra charcharwyd ei feibion bychain [[Llywelyn ap Dafydd ap Gruffudd|Llywelyn]] ac [[Owain ap Dafydd ap Gruffudd|Owain]] yng Nghastell [[Bryste]]. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth.
==Llyfryddiaeth==
*John Davies, ''Hanes Cymru'' (Llundain, 1990)
*Ralph Maud, ''Dafydd Tywysog Olaf Cymru'' ('Cofiwn', 1983). Cyfieithiad o'r erthygl Saesneg a gyhoeddywd yn ''Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion'', 1968.
*J. Beverly Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986)
|