Caracalla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B dolen
Llinell 7:
Yr oedd y berthynas rhwng Caracalla a Geta yn ddrwg, a gwaethygodd ymhellach pan enwyd y ddau yn gyd-olynwyr i'w tad pan fu ef farw ar [[4 Chwefror]] [[211]]. Llofruddiwyd Geta gan Caracalla yn [[212]]. Dywedir i tua 20,000 o bobl oedd yn gwybod mai'r ymerawdwr yn gyfrifol am y llofruddiaeth gael ei lladd. Gadwodd Caracalla ddinas [[Rhufain]] i fynd ar ymgyrchoedd milwrol, ac ni ddychwelodd tra bu byw.
 
Aeth Caracalla i [[Germania]], lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain. Ar ymweliad a [[Groeg]] daeth yn edmygydd mawr o [[Alecsander Mawr]] a phenderfynodd geisio ei efelychu. Yn [[215]] aeth i [[Alexandria]] i ymweld a bedd ei eilun, ond wedi cyhoeddi dychan ynglyn a llofruddiaeth Geta, dinistriwyd llawer o'r ddinas a lladdwyd miloedd o'r dinaswyr gan filwyr Caracalla. Yna aeth i ryfela yn erbyn y [[Parthia|Parthiaid]] gyda chryn lwyddiant.
 
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, [[Macrinus]], yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas [[Carrhae]] yn [[Mesopotamia]]. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae [[Baddonau Caracalla]] a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth.