AIDS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sa:एइड्स्
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Red_Ribbon.svg|bawd|dde|Defnyddir y rhuban goch fel symbol o HIV ac AIDS]]
Mae '''AIDS''' yn sefyll am "''AcqiredAcquired Immunodeficiency Syndrome''", sy'n ddiffiniad o arwyddion, symptomau, [[haint|heintiau]] a [[canser|chanserau]] sydd yn gysylltiedig â'r diffygiad yn y [[system imiwnedd]] sydd yn deillio o fod yn heintiedig â [[HIV]]. Mae'r cyflwr hwn yn lleihau effeithiolrwydd y [[system imiwnedd]] gan adael unigolyn yn agored i heintiau a thyfiannau manteisgar. Caiff HIV ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol rhwng pilen ludiog neu lif gwaed â hylif corfforol sy'n cynnwys HIV, er enghraifft [[gwaed]], [[semen]], [[hylif gweiniol]], hylif cyn-semen a llaeth y fron. Gellir trosglwyddo'r firws drwy ryw rhefrol, gweiniol neu eneuol, trallwysiad gwaed, nodwyddau hypodermig wedi'u heintio, o'r fam i'r baban yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth neu drwy fwydo o'r fron.
 
Bellach mae AIDS yn fyd-eang. Yn 2007, amcangyfrifwyd fod 33.2 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda'r afiechyd a bod 2.1 miliwn wedi eu lladd gan y firws, gan gynnwys 330,000 o blant. Yn [[Affrica]] Îs-Sahara y bu dros dri chwarter o'r marwolaethau hyn, gan amharu ar dyfiant economaidd a dinistrio cyfalaf dynol. Cred y mwyafrif o ymchwilwyr y dechreuodd HIV yn Affrica Îs-Sahara yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cafodd AIDS ei gydnabod gan Ganolfannau Rheolaeth ac Atal Afiechydon yr [[Unol Daleithiau]] ym 1981 a chanfuwyd ei achos, HIV, gan wyddonwyr Americanaidd a Ffrengig ar ddechrau'r 1980au.