Glaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro gwallau using AWB
ehangu fymryn (mathau o lawiad)
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
Ceir systemau mewn dinasoedd a luniwyd yn bwrpasol i sianelu'r glaw i'r môr; ar adegau, pan nad yw'r system yn ei le gall hyn droi'n llifogydd. Yng Nghymru, [[Cyfoeth Naturiol Cymru]] yw enw'r corff sy'n gyfrifol y systemau rheoli glaw.
[[Delwedd:Grangetown Werddach.webmsd.webm|bawd|chwith|Systemau newydd i reoli glaw yn [[Grangetown]], [[Caerdydd]] sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i [[Afon Taf]] yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy [[Bro Morgannwg|Fro Morgannwg]] i’r môr.]]
 
== Mathau o lawiad ==
Mae tair ffordd y gall aer godi, oeri, a chyddwyso i ffurfio glaw.
 
=== Glaw darfudol ===
Digwyddir glaw darfudol mewn ardaloedd poeth, ac yn gyffredin y [[trofannau]]. Mae gwres yr haul yn gorfodi aer i godi'n gyflym. Wrth oeri, mae'r aer yn cyddwyso gan ffurfio cymylau mawrion o'r enw [[cumulonimbus]].
 
=== Glaw tirwedd ===
Digwyddir glaw tirwedd mewn gwledydd mynyddig sydd yn agos i'r môr, megis [[Cymru]] a [[Seland Newydd]]. Wrth i wynt o'r môr wthio anwedd dŵr i fyny wyneb atwynt yr ucheldir, mae'n oeri ac yn cyddwyso, a gweler dyodiad ar gopa'r mynydd. Mae'r aer yn suddo ochr draw y tir uchel, yn yr ardal a elwir [[glawsgodfa]], ac yn atal y dyodiad.
 
=== Glaw ffrynt ===
Achosir glaw ffrynt gan [[aergorff]] cynnes yn cwrdd ag aergorff oer ac yn codi uwch ei ben. Er enghraifft, achosir glaw ffrynt yn aml yn [[Ynysoedd Prydain ac Iwerddon]] wrth i ffrynt oer a gwlyb o'r gogledd ([[Môr Norwy]]), ffrynt gynnes a gwlyb o'r de-orllewin ([[Cefnfor yr Iwerydd]]), ffrynt gynnes a sych o'r de-ddwyrain ([[Y Môr Canoldir]]), a ffrynt oer a sych o'r gogledd-ddwyrain ([[Môr y Gogledd]]) gwrdd â'i gilydd.
 
==Ymateb i ormodedd a phrinder==