Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Cymro"

Ychwanegwyd 2 feit ,  blwyddyn yn ôl
B
==Hanes==
[[Delwedd:First page of 'Y Cymro' for St David's Day (6788943160).jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen 'Y Cymro' ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954; Geoff Charles]]
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur yma ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John amesJames (Ioan Meirion) fel golygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i cyhoeddwyd gan William Morris, yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan [[Isaac Clarke]], Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', [[Rhuthun]]) ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth [[Isaac Foulkes]] (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod, cyhoeddodd [[Daniel Owen]] benodau o'i nofel yn y papur.
 
Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd [[T. Gwynn Jones]] oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth [[Evan William Evans (cyhoeddwr)|Evan William Evans]] a daeth i ben yn 1931.<ref>[http://www.rhwydwaitharchifaucymru.info/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=42&coll_id=10020&expand= Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru']</ref>. Cafodd ei ail-lansio yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn 1920 gan [[William Evans]].
 
{{clear}}
 
==Adfywiad 2018==