20fed ganrif yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 114:
 
Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif pobl Cymru hyd at yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau'r 19fed ganrif credid bod 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn unig, 10% yn ddwyieithog ac 20% yn uniaith Saesneg. Erbyn diwedd y 19eg ganrif dim ond hanner y boblogaeth oedd yn medru'r Gymraeg - canlyniad nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys dyfodiad y [[Rheilffordd|rheilffyrdd]] i Gymru a'r mewnlifiad o filoedd o bobl o [[Lloegr|Loegr]] i weithio yn bennaf yn ardaloedd diwydiannol y wlad.  Lladdwyd cenhedlaeth gyfan o siaradwyr Cymraeg oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymfudodd llawer rhwng y ddau ryfel byd, yn enwedig adeg y Dirwasgiad.
 
 
Gwelodd yr 20fed ganrif frwydrau yn cael eu hennill dros roi lle i’r iaith ym mywyd cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn y gyfraith.  Yn ystod [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol 1938]], dan arweiniad [[Undeb Cymru Fydd]], dechreuwyd casglu enwau ar gyfer Deiseb Genedlaethol. Diben y Ddeiseb oedd hawlio statws i'r iaith Gymraeg 'a fyddai'n unfraint â'r Saesneg ym mhob agwedd ar weinyddiad y gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'. Arwyddwyd y Ddeiseb gan dros chwarter miliwn o bobl a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig.  Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a ganiataodd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn ond methwyd a sicrhau hawliau ehangach.
 
 
Bu darllediad [[Saunders Lewis]] yn Narlith Radio flynyddol y BBC yn Chwefror 13 1962 yn un o’r trobwyntiau pwysicaf yn hanes Cymru. <blockquote>'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.  </blockquote>
[[Delwedd:Protest_gyntaf_Cymdeithas_yr_Iaith,_Pont_Trefechan,_1963.jpg|alt=|bawd|182x182px|Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, ar Bont Trefechan.]]