Alexander Severus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B + es
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B sillafu
Llinell 1:
[[Delwedd:Alexander_severus.jpg|right|thumb|Alexander Severus]]
 
'''Marcus Aurelius Severus AlexandrusAlexander''', a adnabyddir yn gyffredin fel '''Alexander Severus''', ([[1 Hydref]] [[208]] - [[234]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[222]] hyd 234.
 
Ganed Alexander Severus yn ninas Ffenicaidd Arca Cesarea yn [[Syria]]. Yr oedd yn fab i Gessius Marcianus a Julia Mammaea ac yn ŵyr i Julia Maesa. Ei enw gwreiddiol oedd Alexandrus Basianus. Yr oedd Julia Maesa wedi cynorthwyo i wneud [[Heliogabalus]] yn ymerawdwr, ond pan ddaeth yn amlwg na allai hi ei reoli a'i fod yn amhoblogiaidd, dechreuodd Julia weithio i wneud Alexander yn ymerawdwr. Llwyddodd i wneud i Heliogabalus ei enwi fel ei olynydd ar [[16 Mehefin]] [[221]] O.C., a newidiodd Alexander ei enw i Severus AlexandrusAlexander.
 
Wedi i Heliogabalus gael ei lofruddio yn [[222]] llwyddodd ei fam a'i nain i berswadio'r Senedd a'r bobl y dylid cyhoeddi Alexander, oedd ddim ond 13 oed, yn ymerawdwr. Ei fam ac yn arbennig ei nain Julia Maesa oedd yn rheoli mewn gwirionedd yn y blynyddoedd cynnar. Llwyddwyd i roi cyllid y wladwriaeth ar seiliau mwy diogel, ond arweiniodd toriadau yn y gyllideb filitaraidd at anesmwythyd yn y fyddin. Alexander oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod a chydymdeimlad a'r Cristnogion, a dywedir ei fod yn meddwl codi temlau iddynt ac addoli [[Iesu Grist|Crist]] fel un o'r duwiau yn y pantheon Rhufeinig.