Aled Rhys Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Artist lens yw Aled Rhys Hughes. Cafodd ei eni yng Nghwm [[Rhondda]] yn 1966 a bu'n gweithio fel ffotograffydd ers ei arddegau. Mae bellach yn byw yn [[Rhydaman]].
 
Yn 2004, cyhoeddwyd ''Môr Goleuni Tir Tywyll'', cyfrol goffa i [[Waldo Williams]], a oedd yn cynnwys lluniau gan Aled Rhys Hughes a wnaed mewn ymateb i rai o gerddi'r bardd. (Gomer)
Enillodd Aled Rhys Hughes y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru]], [[Abertawe]], yn 2006 am gyfres o luniau mawr o'r enw Ffarwel Rock, lluniau o'r [[Mynydd Du]] yn [[Sir Gaerfyrddin]].
 
Yn 2008, ymddangosodd cyfres newydd o luniau ochr yn ochr â gwaith bardd, sef [[Iwan Llwyd]], yn y gyfrol arbennig ''Rhyw Deid yn Dod Miwn''. Dyfarnwyd Gwobr y Diwydiant i'r gyfrol fel y llyfr lluniau gorau, yn 2010. (Gomer)